Bydd modd i gynulleidfaoedd Cymreig wylio Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn rhad ac am ddim ar y teledu am y pedair blynedd nesaf.

Daw hyn yn dilyn partneriaeth ddarlledu rhwng BBC Cymru, ITV Cymru ac S4C.

O dan y cytundeb, sy’n dechrau yn 2022 ac yn dod i ben ar ôl Pencampwriaeth 2025, bydd y BBC yn darlledu holl gemau cartref Cymru wrth i ddynion Wayne Pivac baratoi i herio’r Alban, Ffrainc a’r Eidal yn Stadiwm Principality.

Mae gan y BBC yr hawliau hefyd i ddarlledu holl gemau cartref yr Alban, gydag ITV yn dangos holl gemau cartref Lloegr, Iwerddon, yr Eidal a Ffrainc ar deledu Saesneg, gydag S4C yn darlledu holl gemau Cymru yn Gymraeg.

“Rwy’n gwybod pa mor bwysig yw gwylio Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ar deledu yn rhad ac am ddim i gartrefi ar draws y wlad,” meddai Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr Cynnwys a Gwasanaethau BBC Cymru.

“Mae wedi bod yn uchafbwynt blynyddol yn fy nheulu i ers fy mhlentyndod, ac rwy’n siŵr bod hynny’n wir am yr 1.8m a wyliodd y gemau ar BBC One Wales y llynedd hefyd.

“Mae gan y Bencampwriaeth le arbennig yng nghalonnau’r genedl a dyna pam mae’n hanfodol ei chadw ar deledu rhad ac am ddim.

“Rydw i wrth fy modd bod ein partneriaeth unigryw gydag ITV a S4C yn sicrhau y bydd y gemau hyn yn parhau i ddenu cynulleidfaoedd anferthol ac yn dod â’r genedl at ei gilydd unwaith eto.”

‘Darpariaeth Gymraeg o’r safon uchaf’

Bydd S4C yn dangos holl gemau’r dynion ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ar Clwb Rygbi Rhyngwladol, yn dilyn cytundeb gyda’r ddau ddarlledwr.

“Rwy’n gyffrous y bydd S4C yn dangos holl gemau Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn fyw eleni, a byddant ar gael ar S4C Clic wrth gwrs,” neddau Siân Doyle, Prif Weithredwr S4C.

“Mae’n fraint cael cynnig darpariaeth Gymraeg o’r safon uchaf i’n cynulleidfaoedd gyda Sarra Elgan wrth y llyw ac i fod yn rhan flaenllaw o’r bencampwriaeth.

“Rydyn ni’n gwybod bod ein cynulleidfa yn caru Clwb Rygbi Rhyngwladol gan ei fod yn cynnig ymateb a dadansoddi o ansawdd mor uchel gydag arbenigwyr blaenllaw fel Ken Owens, Nigel Owens a chapten Cymru, Siwan Lillicrap.

“Rydym wrth ein bodd yn cefnogi ein tîm rygbi cenedlaethol ar bob lefel ac i gynnig y persbectif Cymreig unigryw hwnnw i ddilynwyr rygbi yng Nghymru.”