Mae Steve Morison, rheolwr tîm pêl-droed Caerdydd, wedi canmol ei chwaraewr newydd Uche Ikpeazu, ar ôl iddo fe sgorio unig gôl y gêm yn erbyn Barnsley neithiwr (nos Fercher, Chwefror 2).

Mae e ar fenthyg o Middlesbrough ar ôl symud ar ddiwrnod ola’r ffenest drosglwyddo, a dim ond wyth munud gymerodd hi iddo fe wneud argraff ar ei dîm newydd.

Fe gurodd e’r amddiffynwyr Michal Helik a Mads Anderson i gipio’r triphwynt.

“Rydyn ni wedi dod â fe i mewn i helpu’r tîm, ac fe wnaeth e hynny,” meddai’r rheolwr.

“Doedd hi ddim yn gêm wych i’w gwylio – roedd hi’n gêm ofnadwy a nid dyna’n perfformiad gorau ni, ond fe gafodd e un eiliad ac fe gafodd e’r cyfle i ddangos pa mor gryf a phwerus yw e.

“Mae’n anodd ei stopio ar ôl dechrau, ac mae e’n grwtyn gwych sydd wedi dod i’r clwb â gwên ar ei wyneb.

“Mae e wedi dod ag egni braf i’r garfan ac mae’r bois wedi dweud wrtho fe fod rhaid iddo fe fynd i’r gampfa achos dyw e ddim yn ddigon cryf!”

Golygfeydd hyll

Doedd Steve Morison ddim yn bles â thacl Anderson ar Alfie Doughty, oedd wedi anafu’r chwaraewr ac sy’n golygu y gallai fod allan ar gyfer y gêm gwpan fawr yn erbyn Lerpwl ddydd Sul (Chwefror 6) a rhan helaeth o ail hanner y tymor wedyn.

“Roedd y dacl ar Alfie yn hollol warthus, ac mae tu hwnt i fi sut mai dim ond cerdyn melyn oedd e,” meddai.

Fe arweiniodd y digwyddiad at ffrae ar yr ystlys rhwng Morison a Joe Laumann, is-hyfforddwr Barnsley, wrth i’r timau adael y cae, ac fe wnaeth e gorddi cefnogwyr Caerdydd oedd wedi teithio i Swydd Efrog.

“Doedden nhw ddim yn hoffi’r ffaith ein bod ni wedi’u curo nhw, a dw i ddim yn meddwl eu bod nhw ar eu gorau drwy’r nos drwy guddio’r tywelion ar ymyl y cae a’u rhoi nhw i fyny siwmperi bois y peli pan oedden ni’n taflu i mewn,” meddai.

“Ond fe ddaeth karma yn ôl a’u brathu nhw ar y pen ôl.

“Fe wnaeth un aelod o staff fy nilyn i lawr y twnnel, ond fe wnaeth e bigo ar y person anghywir, ac fe ddaeth swyddogion diogelwch i mewn, ond handbags oedd hi mewn gwirionedd.”

Yn ei dro, fe wnaeth Poya Asbaghi, rheolwr Barnsley, gyhuddo Steve Morison o “ddiffyg urddas”, gan ddweud bod rhaid i’r ffraeo “ddod i ben ar y chwiban olaf”.

“Fe yw hyfforddwr Caerdydd ac mae e wedi ennill gêm o 1-0, felly mae’n rhaid i chi ennill â steil, ac fe ddywedodd e ambell beth oedd ddim yn neis iawn wrthym ni a wna i ddim eu hailadrodd nhw, ond fe wnaeth fy nghynorthwyydd ymateb iddo fe.”