Bydd Jonny Clayton, y Cymro Cymraeg, a Gerwyn Price o Markham yn sir Caerffili ymhlith wyth o chwaraewyr fydd yn cystadlu yn Arena Motorpoint yng Nghaerdydd ar noson gyntaf Uwch Gynghrair Dartiau’r PDC heno (nos Iau, Chwefror 3).

Clayton oedd pencampwr y gystadleuaeth ar ei gynnig cyntaf y llynedd, tra bod Price yn dod i mewn i’r gystadleuaeth yn brif ddetholyn y byd.

Hefyd yn cystadlu mae Peter Wright, Michael van Gerwen, Gary Anderson, Joe Cullen, Michael Smith a James Wade.

Uwch Gynghrair Dartiau'r PDC
Jonny Clayton gyda thlws Uwch Gynghrair Dartiau’r PDC a’r saith chwaraewr arall

Roedd James Evans a Jack Sargeant, dau Aelod o’r Senedd, yn adeilad y sefydliad ym Mae Caerdydd i gyfarch y chwaraewyr ddoe (dydd Mercher, Chwefror 2).

Mae’r gystadleuaeth sy’n werth £1m yn edrych ychydig yn wahanol eleni, wrth iddyn nhw gystadlu dros 17 wythnos.

‘Pob lwc i’r bois o Gymru’

Wrth groesawu’r chwaraewyr i’r Senedd, fe wnaeth James Evans, yr Aelod Ceidwadol o’r Senedd, ddymuno pob lwc i Jonny Clayton a Gerwyn Price wrth iddyn nhw barhau i roi Cymru ar y map.

Gerwyn Price a Jonny Clayton
Gerwyn Price a Jonny Clayton yn y Siambr (Llun: Steven Paston/PDC)

“Roedd yn anrhydedd i fi groesawu’r chwaraewyr dartiau gorau yn y byd i’n Senedd wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer noson gynta’r Uwch Gynghrair dartiau yng Nghaerdydd,” meddai.

“Fel chwaraewr dartiau brwd fy hun, roedd hi’n wych cael cynnal hwn ochr yn ochr â’m ffrind, cydweithiwr, cyd-chwaraewr a chefnogwr dartiau, Jack “The Beard to be Feared” Sargeant.

“Ymhlith y chwaraewyr oedd wedi ymweld â’n Senedd oedd Gerwyn Price, rhif un y byd, a Jonny Clayton, pencampwr yr Uwch Gynghrair y llynedd, o Gymru, a dw i’n siŵr bod y Senedd gyfan yn dymuno’n dda i’r bois o Gymru yn yr Uwch Gynghrair eleni.

“Mae Cymru’n arwain y ffordd ar y llwyfan dartiau byd-eang a dylem oll fod yn hynod falch o’r chwaraewyr sy’n ysbrydoli miliynau o bobol bob dydd o amgylch y byd.

“Rwy’n edrych ymlaen at groesawu’r PDC a’r chwaraewyr yn ôl i’r Senedd yn y dyfodol i arddangos eu doniau anhygoel yma yn ein cartref, Senedd Cymru.”