Mae’r Aelod Seneddol Ceidwadol dros etholaeth Ynys Môn wedi galw eto yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog yn San Steffan am gefnogaeth Boris Johnson i ddod ag adweithyddion niwclear i’r ynys.
Yn dilyn ei chwestiwn i Boris Johnson heddiw (dydd Mercher, Chwefror 2), dywedodd Virginia Crosbie wrth golwg360 ei bod hi “am ymladd gyda’i chalon ac ysbryd” i sicrhau y bydd ynni niwclear yn cael ei sefydlu ar Ynys Môn.
Fe ofynodd Boris Johnson yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog a allai Llywodraeth Cymru ariannu cynllun Wylfa yn ystod y Senedd hon.
Mae’r Llywodraeth ym Mae Caerdydd yn awyddus i edrych ar ddulliau amgen o gynhyrchu trydan yn enwedig, er mwyn cyrraedd y targed o sero-net erbyn 2050.
Mae gan Lywodraeth Cymru fwriad i symud y targed i 2035, yn dilyn y cytundeb cydweithredu â Phlaid Cymru.
‘Atomic Kitten’
Mae Aelod Seneddol Ynys Môn yn cael ei hadnabod wrth y ffugenw “Attomic Kitten” yng nghoridorau San Steffan, gan ei bod yn llafar ei chefnogaeth dros ynni niwclear.
“I mi, mae’n rywbeth rwy’n llwyr benderfynol o sicrhau y bydd adweithyddion niwclear yn cael eu gosod ar yr ynys, a byddaf yn ymladd â fy nghalon ac ysbryd er mwyn sicrhau hynny,” meddai Virginia Crosbie wrth golwg360.
“Mae pobol yn gwybod hyn oll a hyd yn oed bore ma, mae pobol yn gweld fy mod yn gofyn cwestiwn ac yn gofyn i mi a fyddwn yn codi Wylfa.”
Wrth ymateb, dywedodd y prif weinidog fod ganddi weledigaeth wych a’i bod yn “parhau i fod yn opsiwn gwych i gynhyrchu ynni niwclear.”
Adweithyddion
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi clustnodi £200m i gwmni Rolls Royce, sydd â’r bwriad o geisio gwireddu’r cynlluniau i greu 16 o adweithyddion bychain ar yr ynys.
Mae gan y cwmni darged o gynhyrchu pum adweithydd erbyn 2031, gan gefnogi swyddog am hyd at 70 mlynedd a phweru miliwn o dai.
‘Swyddi da i fyw bywyd Cymraeg’
“Rwyf am weld dau adweithydd mawr a rhai bychain yn cael eu datblygu er mwyn creu ynys sydd â diwydiant, swyddi ac egni, ac fel ein bod yn cyfleu posibiliadau ynni niwclear i weddill y byd,” meddai Virginia Crosbie wedyn.
“Fe wnaethom ni arwain ar hyn yn y 1950au a’r 1960au, wel, pam ddim heddiw?
“Dychmygwch faint o ddur sy’n cael ei ddefnyddio i adeiladu’r adweithyddion hyn, a faint o ddaioni fyddai hynny’n ei wneud i’r diwydiant dur yng Nghymru a’r economi yn gyffredinol.
“Mae cymaint o bobol ifanc am barhau i fyw ar yr ynys i fyw bywyd Cymreig drwy’r Gymraeg ac mae hynny’n dechrau gyda swyddi da.
“Ac fel yr ‘Ynys Ynni’ sydd â phŵer dŵr, gwynt, solar, Hydrogen a gobeithio’n wir y gallwn ychwanegu niwclear at hynny.”
Fel un o’r Ceidwadwyr newydd a etholwyd i San Steffan yn etholiad 2019, mae Virginia Crosbie wedi bod yn pwyso ar Boris Johnson i ddod ar ymweliad i Ynys Môn i weld y potensial sydd gyda’r lle.
Gwrthwynebiad
Fe fu ymgyrchwyr yn galw ar aelodau seneddol i wrthod y Bil Ariannu Niwclear yn San Steffan.
Byddai’r model ariannu newydd yn golygu bod biliau ynni yn cynnwys arian fyddai’n mynd tuag at adeiladu pwerdai newydd.
Maen nhw hefyd yn poeni am ddiogelwch adweithyddion.
Mae Virginia Crosbie yn croesawu cefnogaeth arweinydd Cyngor Ynys Môn, Llinos Medi, ar raglen Y Byd yn Ei Le.
Dywedodd Llinos Medi ei bod yn “aelod ffyddlon o Blaid Cymru”, ond ei bod yn cefnogi niwclear.
Wrth fynd yn groes i bolisi ei phlaid, galwodd am “drafodaeth aeddfed” o fewn Plaid Cymru ar bŵer niwclear.
“Rhaid imi gyfaddef y buodd yn wych gweld Llinos Medi yn datgan ei chefnogaeth mor gyhoeddus dros ynni niwclear, ac rwy’n gobeithio dod â Gregg Hands, Gweinidog Ynni Llywodraeth y Deyrnas Unedig i’r ynys yn fuan i gwrdd â phobol yn y gymuned a’r Cyngor,” meddai Virginia Crosbie wrth ymateb i’r sylwadau.
Ynys Môn yn cefnogi Boris Johnson
Yn y cyfamser, mae Virginia Crosbie wedi datgan ei chefnogaeth i Boris Johnson, prif weinidog y Deyrnas Unedig sy’n wynebu galwadau cynyddol i ymddiswyddo.
Heddiw (dydd Mercher, Chwefror 2), ymunodd Tobias Ellwood, y cyn-weinidog a chadeirydd presennol y Pwyllgor Amddiffyn, yn y ffrae gan roi llythyr o ddiffyg hyder yn y Prif Weinidog.
“Wrth gwrs bod pobol yn grac, a deallaf fod nifer wedi colli anwyliaid drwy’r cyfnod anodd yma,” meddai.
“Ond pan ddaeth y Prif Weinidog i’r ynys, roedd yna gymaint o bobol yn dal yn ei gefnogi.
“Mae pobol ar lawr gwlad yn poeni am bethau fel costau byw a’r sefyllfa yn Wcráin.”