Mae Boris Johnson yn wynebu rhagor o alwadau gan aelodau ei blaid ei hun i ymddiswyddo.

Daw hyn wrth iddo wynebu Syr Keir Starmer yn ystod sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog, ac yntau dan ragor o bwysau yn sgil ffrae partïon yn Rhif 10 Downing Street.

Heddiw (dydd Mercher, Chwefror 2), ymunodd Tobias Ellwood, y cyn-weinidog a chadeirydd presennol y Pwyllgor Amddiffyn yn y ffrae, gan roi llythyr o ddiffyg hyder yn y Prif Weinidog.

Rhaid i o leiaf 54 o Dorïaid gyflwyno llythyrau i sefydlu pleidlais ar ddyfodol y prif weinidog.

Ar hyn o bryd, dim ond llond llaw o aelodau seneddol Torïaidd – gan gynnwys arweinydd y blaid Albanaidd Douglas Ross – sydd wedi dweud eu bod nhw wedi cyflwyno llythyrau i Bwyllgor 1922 o aelodau’r meinciau cefn, sy’n cynnal etholiadau arweinyddol y blaid.

Ond mae gweinidogion yn mynnu bod gan Boris Johnson gefnogaeth y rhan fwyaf o’i blaid, a’i fod yn “bwrw ymlaen â’r gwaith”.

Daw’r sesiwn holi hefyd wrth i’r llywodraeth lansio eu cynlluniau “codi’r gwastad” hirddisgwyliedig, gan addo cau’r bwlch rhwng rhannau cyfoethog a thlawd y wlad.

Codi trethi

Wynebodd y Prif Weinidog gwestiynau ynghylch pam ei fod yn codi trethi ar bobl sy’n gweithio gan ei fod yn honni ei fod yn “Geidwadwr sy’n torri trethi”.

“Un o’r honiadau mwyaf hurt a wnaed ar ran Ymgyrch Save Big Dog yw’r Prif Weinidog a’r Canghellor yn ysgrifennu yn y Sunday Times mai nhw yw’r Ceidwadwyr sy’n torri trethi,” meddai Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur.

“Pam fod y torwyr trethi honedig hyn yn dal i godi trethi ar bobol sy’n gweithio?”

Fe ymatebodd y Prif Weinidog gan ddweud, “O ran yr hyn yr ydym yn ei wneud i fynd i’r afael â chostau byw a threthiant, mae ein rhaglen grant adfer Covid yn gwbl hanfodol i helpu pobol gyda chostau byw, gyda chymryd taliadau Credyd Cynhwysol drwy dorri’r dreth y mae pobol yn ei thalu’n effeithiol, codi’r cyflog byw”.

“Rydym yn helpu cynghorau gyda hanner biliwn o bunnoedd i’r rhai sy’n wynebu caledi penodol, ond yr hyn yr ydym hefyd yn ei wneud, ac mae hyn yn gwbl hanfodol, yw cynyddu nifer y swyddi cyflog uchel, sgiliau uchel yn y wlad hon,” meddai wedyn.

Dechreuodd y Llefarydd Syr Lindsay Hoyle y sesiwn drwy atgoffa aelodau seneddol am reolau seneddol sy’n atal aelodau seneddol rhag tynnu sylw at adeg pan fydd aelod arall yn dweud celwydd neu’n camarwain y Tŷ.

Daw hyn wedi i Ian Blackford, arweinydd yr SNP yn San Steffan, gyhuddo’r Prif Weinidog o gamarwain y Tŷ dros bartïon yn Rhif 10.

Nododd Ian Blackford ei fod yn parchu Cadair y Llefarydd gan fynegi bod ganddo fe “ddyletswydd i adlewyrchu a chynrychioli’r dicter cyhoeddus dwfn, dwfn” sydd gan y cyhoedd tuag at y Prif Weinidog ar hyn o bryd.

Thelma a Louise

Dywed Syr Keir Starmer fod y llywodraeth wedi cael eu gorfodi i godi trethi oherwydd twf isel, ac mae’n cyhuddo’r prif weinidog o “wasgu pobol sy’n gweithio”.

Fe gymharodd Keir Starmer y Canghellor â’r ddeuawd Americanaidd Thelma a Louise, “wrth iddyn nhw yrru’r wlad oddi ar y dibyn i’r twll, neu i dwf a threthi isel”.

Ymatebodd Boris Johnson gyda’i gymhariaeth ei hun, gan gymharu arweinydd yr wrthblaid â’r cymeriadau cartŵn Dastardly a Muttley.

Mae’n dweud bod y llywodraeth yn “bwrw ymlaen â’r gwaith”, gan gynnwys y “weledigaeth wych” yn y Papur Gwyn ar godi’r gwastad, sy’n cael ei gyhoeddi heddiw.

Partïon Rhif 10

“Efallai y bydd y prif weinidog am fireinio sut mae’n ateb cwestiwn o dan gyfweliad,” meddai Syr Keir Starmer wedyn, gan gyfeirio at ymchwiliad yr heddlu i’r partïon yn Rhif 10.

Wrth droi at yr economi drachefn, fe wnaeth arweinydd y Blaid Lafur gyhuddo Boris Johnson o ddiogelu “cwmnïau olew ac elw banc wrth roi trethi ar bobol sy’n gweithio”.

Ond dywedodd y prif weinidog ei fod e am “fynd at wraidd yr hyn y mae hyn yn ei olygu – delio â chanlyniadau’r pandemig mwyaf y mae’r wlad hon wedi’i weld”.

Dywedodd fod y Torïaid yn rhoi llawer o arian i’r Gwasanaeth Iechyd, a’i bod yn “druenus” nad yw Llafur yn eu cefnogi.

Dianc i’r Wcráin

Fe ofynnodd Ian Blackford lle’r oedd Boris Johnson ar Dachwedd 13, 2020, gyda’r Daily Telegraph yn adrodd bod y prif weinidog wedi mynychu cynulliad yn ei fflat yn Downing Street.

Atebodd Boris Johnson gan ddweud bod Ian Blackford wedi gofyn yr un cwestiwn yn Nhŷ’r Cyffredin ychydig ddyddiau’n ôl, ond – gan gyfeirio at ymchwiliad yr heddlu – dywedodd fod “rhaid i’r broses fynd rhagddi”.

Aeth arweinydd yr SNP yn San Steffan yn ei flaen i ddweud bod y prif weinidog bellach yn “tynnu sylw gartref mewn modd peryglus, ac yn jôc barhaus ar y llwyfan rhyngwladol”.

Wrth ymateb, dywedodd Boris Johnson ei bod yn fwy hanfodol nag erioed ei fod yn “bwrw ymlaen â’r gwaith” a chyflawni cynllun adfer Covid y llywodraeth.

Dadansoddiad: Jacob Morris, Gohebydd Senedd

“Os ydych mewn twll, gwell rhoi’r gorau i balu” 

Wel, os ddysgon ni rywbeth yn ystod PMQ’s heddiw, fe ddysgon ni beth yw oedran Boris Johnson a Keir Starmer. Thelma a Louise a’r cartŵn Wacky Races? Bu’n rhaid imi droi at Google i ddeall y gyfeiriadaeth!

Ond mae’r Siambr wedi bod llawn o gyfeiriadau hanesyddol yr wythnos hon hefyd. Mae Starmer wedi bod wrthi’n defnyddio rhai o aelodau Mount Olympus y Blaid Geidwadol, gan ddyfynnu Thatcher a Churchill ar lawr y siambr. Gwnaeth Boris hyd oed gyfeirio at un o Dduwiau’r Blaid Lafur, y Cymro Aneurin Bevan yn ystod y ffraeo y prynhawn ‘ma!

A thra bod y ddau’n cyfeirio at gewri hanesyddol Tŷ’r Cyffredin, waeth imi wneud hefyd…Fe ddywedodd Denis Healey ryw dro, “Os ydych mewn twll, gwell rhoi’r gorau i balu”. I’r perwyl hwnnw, priodol oedd gweld Boris Johnson tu ’nôl i lyw JCB yr wythnos ddiwethaf yng ngogledd Cymru… efallai’n parhau i ddyfnhau’r twll mae ynddo.

Ond er yr ymweliad â Chonwy a’r Wcráin dros y dyddiau diwethaf, does dim modd dianc rhag sŵn a sgrech San Steffan. Roedd nifer yn disgwyl y byddai’r deuddeg dudalen damniol gan Sue Gray, o’r diwedd, yn gyfle i daflu’r Brenin Boris oddi ar ei orsedd. Serch hyn, mae hyn wedi rhoi’r cyfle iddo fagu cefnogaeth. Er, mae nifer y llythyron at Gadeirydd yr 1922 yn cynyddu. Ond gydag argyfwng rhyngwladol, mae ganddo’r cyfle i ymddangos yn brif weinidogol, gan jetio’i draw i’r Wcráin a “bwrw ymlaen gyda’r gwaith” – ei fantra newydd erbyn hyn.

Ond mae’r Prif Weinidog yn sobor o ymwybodol o bŵer y dynion yn y siwtiau llwyd i allu tynnu’r llen. Ac wedi iddo siarad â’r 1922 brynhawn Llun, mae’n glir fod aelodau’r meinciau cefn yn codi mwy o fraw arno nag arweinydd Rwsia. Ond pe bai Boris o ddifrif am achub ei groen ei hun, gwell anghofio Churchill, Thatcher a Bevan. Ac efallai, gwrando ar eiriau syml ond effeithiol Denis Healey fyddai orau a stopio palu yn y gobaith fydd mwy o aelodau’r blaid yn estyn llaw allan o’r twll dwfn hwn.

 

‘Thelma a Louise’: galw pellach yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog ar i Boris Johnson ymddiswyddo

Jacob Morris

Gwnaeth Keir Starmer gymharu Boris Johnson a Rishi Sunak â ‘Thelma a Louise’, “wrth iddyn nhw yrru’r wlad oddi ar y dibyn” yn dilyn codi trethi