Bydd Cymru yn derbyn cymorth i ddatblygu technoleg a gwella band-eang fel rhan o gynllun Llywodraeth San Steffan i “godi’r gwastad” yn y Deyrnas Unedig.
Maen nhw hefyd yn dweud y bydd cronfa newydd – sy’n disodli arian yr Undeb Ewropeaidd sydd bellach yn cael ei ddirwyn i ben – yn “datganoli” arian i ardaloedd lleol ledled Cymru.
Ond yn ôl Llywodraeth Cymru, mae penderfyniadau cyllidol y Deyrnas Unedig ers gadael yr Undeb Ewropeaidd wedi gadael Cymru ar ei cholled.
Daw hyn wrth i brif weinidogion Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon gael eu gwahodd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n cael ei alw’n “ymdrech gyfunol newydd i godi gwastad” y Deyrnas Unedig gyfan.
Bydd Boris Johnson, sydd dan y lach o ganlyniad i’r sgandal “partygate” yn ddiweddar, yn ceisio tynnu sylw oddi wrth y saga barhaus drwy fynnu mai “cenhadaeth ddiffiniol” ei lywodraeth yw “codi gwastad” y wlad fel bod gan bobol “fynediad i’r un cyfleoedd” waeth ble maen nhw yn y Deyrnas Unedig.
Bydd Michael Gove, Ysgrifennydd Codi’r Gwastad yn San Steffan, yn gwahodd prif weinidog Cymru Mark Drakeford, prif weinidog yr Alban Nicola Sturgeon, yn ogystal â Paul Givan a Michelle O’Neill o Lywodraeth Gogledd Iwerddon, gan alw ar i’r pedair gwlad gydweithio yn yr un modd ag y gwnaethon nhw yn y broses o gyflwyno brechlyn Covid.
Beth mae hyn yn ei olygu i Gymru?
Mae’r cynlluniau’n cynnwys ymrwymiadau mawr i wella bywydau pobol ledled y Deyrnas Unedig erbyn 2030, gan addo gwella llesiant ym mhob un o’r pedair gwlad.
Mae llywodraeth y Deyrnas Unedig am gau’r bwlch rhwng y dinasoedd sy’n perfformio orau a gwaethaf, a lleihau’r bylchau mewn disgwyliad oes.
Mae hyn yn cynnwys gwella darpariaeth band-eang a signal 4G, yn ogystal â chyflwyno system symudol 5G newydd ar gyfer rhan fwya’r boblogaeth.
Ac mae gweinidogion wedi addo cynnydd o 40% mewn buddsoddiad cyhoeddus y tu allan i dde-ddwyrain Lloegr mewn ymchwil dechnolegol.
‘Angen cydweithio’
Yn ôl Michael Gove, bydd dinasoedd a threfi yng Nghymru fel Abertawe, Aberystwyth, Bangor yn elwa ar y cynlluniau.
“Mae ein cynllun uchelgeisiol i uno a chodi gwastad y Deyrnas Unedig gyfan yn ceisio dod â’r anghyfiawnder hanesyddol hwnnw i ben a rhoi’r gorau i’r loteri cod post,” meddai.
“Fyddwn ni ond yn llwyddo pe bai pob haen lywodraeth – y Deyrnas Unedig, datganoledig a lleol – yn cydweithio.
“Rydym wedi gweld drwy lwyddiant cyflwyno’r brechlyn yr hyn y gallwn ei gyflawni pan fyddwn yn cyd-dynnu.
“Gyda’n gilydd, does dim her na allwn ni ei chyflawni.”
Beirniadaeth
Mae gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi cyhuddo Llywodraeth y Deyrnas Unedig o danseilio Bae Caerdydd drwy wneud penderfyniadau gwario ym meysydd sy’n dod o dan eu rheolaeth, fel Trafnidiaeth a’r Amgylchedd.
Maen nhw hefyd yn cyhuddo’r llywodraeth yn San Steffan o fethu â chadw addewid na fyddai pobol Cymru ar eu colled yn sgil Brexit, gyda’r llywodraeth yn Llundain yn dweud y bydden nhw’n derbyn £375m y flwyddyn.
“Byddai unrhyw gynllun sy’n deilwng o hygrededd wedi cael ei gyhoeddi’r llynedd gyda blaenoriaethau clir ar gyfer economïau lleol cryfach mewn economi sy’n ail-gydbwyso yn y DU,” meddai Vaughan Gething, Ysgrifennydd Economi Cymru.
“Yn ei le, mae gennym botiau ariannu annigonol, anghynhwysol yn dod gan Whitehall.
“Mae penderfyniadau anodd eisoes wedi’u gwneud yma i ddiogelu blaenoriaethau fel ein hymrwymiad i ddarparu 125,000 o brentisiaethau yn y senedd hon.
“Mae llenwi twll a adawyd gan arian coll yr Undeb Ewropeaidd a addawyd i Gymru yn cyfyngu ar ein gallu i gefnogi cynigion cryf a fyddai’n cryfhau ein cryfderau economaidd.”
Pan oedd y Deyrnas Unedig yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd, byddai Cymru’n derbyn cyllid i helpu’r economi, a’r arian hwnnw’n cael ei reoli gan Lywodraeth Cymru.
Yn dilyn Brexit, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig y byddai hyn yn cael ei ddisodli gan Gronfa Ffyniant gwerth £2.6bn, ond mae’r modd y bydd hynny’n gweithio’n aneglur o hyd.
Dywedodd y Llywodraeth heddiw y bydd y gronfa’n cael ei “datganoli” i “ardaloedd lleol” yng Nghymru – gan awgrymu mai cynghorau, yn hytrach na Bae Caerdydd, fydd yn gweinyddu neu’n gorfod gwneud cais amdano.
Cynlluniau codi’r gwastad Cymru
- £16.7m ar gyfer prosiect llwybrau cerdded a beicio Dyffryn Tywi yn Sir Gaerfyrddin
- £10.8m tuag at adfywio Hen Goleg, promenâd a harbwr Aberystwyth
- £17.7m i gefnogi adfywio Hwlffordd yn Sir Benfro, gan gynnwys gwaith gwella yng nghastell segur y dref o’r 13eg ganrif
- £15.4m i adfer darn o Gamlas Maldwyn, Powys
- £6.9m ar gyfer prosiectau seilwaith yn Llandrindod ac Aberhonddu
- £11.4m i ddeuoli’r A4119 yng Nghoed-Trelái, Rhondda Cynon Taf
- £5.4m i Ganolfan Gelf y Miwni, Pontypridd
- £3.6m ar gyfer cyfnewidfa bysiau a rheilffyrdd yn y Porth, Rhondda Cynon Taf
- £13.3m i hybu twristiaeth, gan gynnwys llwybr cerdded newydd yn yr ardal o amgylch Traphont Ddŵr Pontcysyllte ger Wrecsam, sy’n safle Treftadaeth y Byd .