Mae 27 o bobol wedi cael eu cyhuddo o droseddau’n ymwneud â’r anhrefn yn ardal Mayhill yn Abertawe y llynedd.

Mae’r rhai sydd wedi’u cyhuddo rhwng 15 a 44 oed, yn ôl Heddlu’r De.

Cafodd ceir eu rhoi ar dân a ffenestri tai eu torri yn ystod yr anhrefn ar Fai 20, 2021.

Fe wnaeth Heddlu’r De ymddiheuro’r wythnos ddiwethaf ar ôl i adolygiad feirniadu eu hymateb i’r digwyddiad.

Mae’r 27 yn wynebu cyhuddiadau am derfysgu, ac mae dau ddiffynnydd yn wynebu cyhuddiadau o gynnau tân gyda’r bwriad o beryglu bywyd neu fod yn ddi-hid am beryglu bywydau.

Mae disgwyl iddyn nhw ymddangos gerbron Llys Ynadon Abertawe rhwng Mawrth 2 a 4.

‘Niwed difrifol a thrallod’

“Yn dilyn ymchwiliad manwl gan dditectifs lleol mae GWasanaeth Erlyn y Goron (CPS) wedi derbyn ffeiliau gyda thystiolaeth yn erbyn yr unigolion hyn,” meddai’r Prif Uwch-arolygydd Trudi Meyrick, sy’n gyfrifol am ardaloedd Abertawe a Chastell-nedd.

“Ar ôl ystyried yn fanwl, mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi rhoi awdurdod i ddwyn cyhuddiadau o derfysg a chynnau tân gyda’r bwriad o beryglu bywyd.

“Roedd y tîm ymchwilio’n benderfynol yn eu hymrwymiad i ymchwilio’r anhrefn a ddigwyddodd y noson honno’n llawn; fe wnaeth trigolion Mayhill ddioddef anhrefn ofnadwy a wnaeth achosi niwed difrifol a thrallod i’r gymuned.

“Bydd y broses farnwrol yn cael ei chynnal nawr, a byddwn ni’n aros am ganlyniadau’r broses honno.

“Yn y cyfamser, mae Tîm Heddlu’r Gymdogaeth leol yn parhau i weithio mewn partneriaeth gydag asiantaethau a’r gymuned leol i fynd i’r afael â’r materion sydd bwysicaf i drigolion Mayhill a’r ardaloedd cyfagos.”