Dylai pobl anwybyddu araith Boris Johnosn ym Manceinion heddiw (Hydref 6) i “Lefelu i Fyny”, yn ôl Liz Saville Roberts, meddai arweinydd grŵp Plaid Cymru yn San Steffan.

Wrth ymateb i araith y Prif Weinidog heddiw, fe ddywedodd fod record Boris Johnson yn brawf o fethiant ei bolisi economaidd, sy’n tarfu ar fusnesau ac yn cyfrannu at galedi cymdeithasol.

“Anwybyddwch ei neges am ‘lefelu i fyny’, y realiti yw bod £286m yn cael ei dorri o economïau lleol Cymru o dan Boris Johnson heddiw a bod 275,000 o deuluoedd wedi’u gwthio i dlodi,” meddai Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Dwyfor Meirionydd.

“Treuliodd Boris Johnson hanner ei araith yn y gynhadledd yn ymosod ar ei ragflaenwyr Torïaidd am greu un o’r cymdeithasau mwyaf anghydbwysedd yn y byd.

“Ond ni waeth faint y mae’n ceisio ymbellhau oddi wrth y llywodraethau trychinebus hynny – cefnogodd y llywodraethau Ceidwadol hynny’n llwyr am dros ddegawd.”

Dywedodd Liz Saville Roberts ar ei chyfrif Twitter: “Mae banter Boris Johnosn am “lefelu i fyny” yn #CPC21 yn waradwyddus pan mae ei lywodraeth HEDDIW yn torri £286 miliwn oddi wrth economïau lleol gan wthio 275,000 o deuluoedd mewn tlodi.”

Fe wnaeth araith Mr Johnson bara 45 munud gerbron torf llawer mwy nag ar gyfer unrhyw aelodau arall o’r Cabinet yn ystod cynhadledd y Blaid Geidwadol yr wythnos hon.

Prif fyrdwn ei neges oedd trwsio’r “farchnad dai sydd wedi torri” a hybu seilwaith yn helpu i “lefelu i fyny” yr economi.

Gwnaeth hefyd addo cyflawni newid “hir-dymor” i reoli mewnfudo a rhoi hwb i gyflogau.

Dywedodd mai lleihau anghydraddoldeb rhanbarthol oedd y “prosiect mwyaf y gall unrhyw lywodraeth gychwyn arno”.

Credyd cynhwysol

Fe ychwanegodd Liz Saville Roberts “Yn hytrach na’i jôcs gwael a siarad lol arferol, fe allai ddangos dewrder.”

“Ei araith yn y gynhadledd heddiw oedd ei gyfle olaf i ddod o hyd i gydwybod gymdeithasol ac i wneud tro pedol ar ei gynlluniau dinistriol i dorri £20 o gyllidebau wythnosol miliynau o bobl.

“Yn hytrach na’r nonsens arferol am yr angen i dorri Credyd Cynhwysol i annog pobl i mewn i waith, gallai gyfaddef nad oes tystiolaeth bod achosi tlodi yn cymell gwaith.”

‘Dim sylwedd i’w araith’

“Mae e llawn geiriau ond ddim cig fel petai. Mae ganddo ddigon o addewidion ond dim bwriad i’w gwireddu ond felly dyna ei natur e,” meddai’r cyn-Prif Weinidog, Carwyn Jones, ar raglen Dros Ginio ar BBC Radio Cymru.

“Mae llawer o eiriau ond ddim byd cadarn am yr hyn mae e’n disgwyl gwneud. Dydy e ddim yn berson manylion ac mae yna dueddiad ganddo i gwato, cuddio pan fydd pethau’n mynd o’i le, ble oedd e pan oedd yr argyfwng petrol yr wythnos ddiwethaf?

“Fel arweinydd mae angen i chi fod yna pan mae pethau’n mynd yn wael yn ogystal â phan mae pethau’n mynd yn dda.”

Boris Johnson yn rhoi addewid i “newid cyfeiriad” yr economi

Bydd pwyslais y Prif Weinidog ar uno a “sicrhau tegwch”