Mae ffosils a gafodd eu darganfod mewn chwarel ym Mhant-y-ffynnon yn y 50au wedi cael ei hadnabod fel deinosor newydd.

Pendraig milnerae yw’r enw ar y deinosor newydd, ac yn ôl gwyddonwyr roedd yr un maint ag iâr, ac yn fedr o hyd gyda’i gynffon.

Hwn yw’r deinosor oedd yn bwyta cig hynaf i gael ei adnabod yn y Deyrnas Unedig, ac mae’n perthyn i’r cyfnod Triasig Hwyr, sef dros 200 miliwn mlynedd yn ôl.

Mae’r deinosor newydd yn theropod, grŵp sy’n cynnwys y T. rex ac adar modern hefyd.

Cafodd yr olion eu disgrifio am y tro cyntaf mewn thesis yn 1983, ond mae gwyddonwyr wedi dod i’r canlyniad nawr ei fod yn rhywogaeth newydd.

Nawr bod y ffosil wedi cael ei adnabod fel rhywogaeth newydd, dyma’r theropod hynaf i gael ei ddarganfod yn y Deyrnas Unedig hyd yn hyn.

Roedd y deinosoriaid hyn yn llai na’u perthnasau oedd yn byw ar y cyfandir, ac mae’n debyg bod eu bod nhw tua’r un maint ag iâr heddiw.

Mae’r ‘milnerae’ yn ei enw yn cyfeirio at Dr Angela Milner, a oedd yn ddirprwy geidwad paleontoleg yn yr Amgueddfa Hanes Naturiol am dros 30 mlynedd, ac a fu farw fis Awst.

“Eithaf bach”

Dywedodd Dr Stephen Spiekman, cydymaith ymchwil yn yr Amgueddfa Hanes Naturiol: “Roedd Pendraig milnerae yn byw tua dechrau esblygiad y deinosoriaid oedd yn bwyta cig.

“Mae’n amlwg o’r esgyrn sydd gennym ni ei fod yn bwyta cig, ond yn gynnar yng nghyfnod esblygu’r grŵp roedd yr anifeiliaid hyn yn eithaf bach, o gymharu â’r deinosoriaid enwog sy’n bwyta cig, fel T. rex, a esblygodd dipyn hwyrach.”

Mae ymchwilwyr yn awgrymu y gallai darganfod y rhywogaeth newydd hwn gynnig tystiolaeth bod rhywogaethau yn llai yn yr ardal, a chynnig tystiolaeth ynghylch ffenomenon ‘island dwarfism’ – ffenomenon lle mae rhywogaethau’n llai ar ynysoedd nag ar y tir mawr.

“Mae’n debyg bod yr ardal lle gafodd y rhywogaethau eu darganfod yn ynys yn ystod y cyfnod roedd y deinosor yn fyw,” meddai Dr Stephen Spiekman.

“Mae rhywogaethau sy’n byw ar ynysoedd yn tueddu i fynd yn llai na’r rhai ar y tir mawr, yn aml.

“Rydyn ni angen mwy o dystiolaeth gan fwy o rywogaethau i ymchwilio’r posibilrwydd bod island dwarfism yn bod yn yr ardal yn ystod yr amser hwn, ond os yw’n cael ei brofi, hwn fyddai’r cofnod cynharaf o’r ffenomenon esblygu hon.”