Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i ddifrod troseddol i furlun ym Mae Caerdydd yn dweud eu bod yn ei drin fel trosedd casineb.

Cafodd y murlun sy’n dathlu amrywiaeth yng Nghaerdydd ei ddifrodi’n fwriadol, yn ôl yr heddlu.

Rhan o brosiect My City, My Shirt yw’r murlun, ac mae’n ceisio annog cymunedau lleiafrifol i gymryd diddordeb yng nghlwb pêl-droed Caerdydd.

Mae Heddlu’r De nawr yn ymchwilio i’r difrod sydd wedi ei wneud i’r murlun yn Butetown, ger swyddfeydd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.

Dywedodd yr Arolygydd Kevin Jones, o adran diogelwch cymunedol Heddlu De Cymru: “Mae’n ymddangos bod paent gwyn wedi’i daflu’n fwriadol ar y murlun o’r palmant lle mae sblasio paent hefyd.

“Yn ddealladwy, mae trigolion lleol, yr artist ac Unify Creative, a gomisiynodd y prosiect, wedi’u cynhyrfu’n gan yr hyn sydd wedi digwydd i’r murlun hwn, sy’n cynrychioli Caerdydd fel dinas falch, groesawgar ac amlddiwylliannol.”

Mae tadalen GoFundMe bellach wedi’i sefydlu i dalu am gostau trwsio’r murlun, ac wedi codi dros £1,000.

Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru gan ddyfynnu *348427 ar eu gwefan.

Mae’r llu hefyd yn atgoffa pobol i roi gwybod am unrhyw droseddau casineb maen nhw’n eu gweld neu eu profi.

Murlun sy’n dathlu amrywiaeth yng Nghaerdydd wedi ei ddifrodi’n fwriadol

“Dyma symbol arall o bopeth sy’n wych am Gaerdydd yn cael ei fandaleiddio gan leiafrif bach, bach iawn”