Cafodd murlun sy’n dathlu amrywiaeth yng Nghaerdydd ei ddifrodi’n fwriadol, yn ôl yr heddlu.

Rhan o brosiect My City, My Shirt yw’r murlun, ac mae’n ceisio annog cymunedau lleiafrifol i gymryd ddiddordeb yng nghlwb pêl-droed Caerdydd yn ogystal â’r ddinas.

Mae Heddlu’r De nawr yn ymchwilio i’r difrod sydd wedi ei wneud i’r murlun yn Nhre-biwt, ger swyddfeydd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.

“Rydyn yn drist ac wedi cael sioc i weld fod y murlun #MyCityMyShirt sydd wrth ymyl ein swyddfeydd ym Mae Caerdydd wedi’i ddifwyno,” meddai’r Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru mewn datganiad ar Twitter.

“Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gynorthwyo’r heddlu o ran lluniau teledu cylch cyfyng.”

Dywedodd arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas: “Dyma symbol arall o bopeth sy’n wych am Gaerdydd yn cael ei fandaleiddio gan leiafrif bach, bach iawn.”

Mae tadalen GoFundMe bellach wedi’i sefydlu i dalu am gostau trwsio’r murlun, ac wedi codi dros £1,000.

Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru gan ddyfynnu *348427 ar eu gwefan.

Mae’r llu hefyd yn atgoffa pobol i roi gwybod am unrhyw droseddau casineb maen nhw’n eu gweld neu eu profi.