Mae pryderon wedi codi ynglŷn â thoriadau i dimau ymateb yr heddlu yn ne Ceredigion.

Byddai’r timau sydd wedi eu sefydlu yn Aberaeron, Aberteifi, a Llanbedr Pont Steffan ar hyn o bryd yn cael eu cyfnewid am un swyddog ar bob shifft yng Nghastell Newydd Emlyn.

Byddai’r swyddog hwnnw wedyn yn gyfrifol am ymateb i alwadau brys yn y tair tref, yn ôl un sydd wedi dechrau deiseb yn erbyn y cynlluniau gan Heddlu Dyfed Powys.

Dyma’r toriadau arfaethedig diweddaraf yn y sir, ar ôl i gynlluniau gael eu cyhoeddi gan Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i leihau’r nifer o ambiwlansys sydd ar gael yn y sir.

Gwrthdaro

Mae Dinah Mulholland, wedi bod yn gynghorydd tref yn Llambed ac ymgeisydd Llafur Ceredigion yn y ddau etholiad Seneddol diwethaf.

Fe ddechreuodd hi ddeiseb yn gwrthwynebu’r cynlluniau diweddar gan Heddlu Dyfed Powys.

“Disgwylir i’r ad-drefnu peryglus hwn o wasanaethau heddlu lleol gael ei weithredu ym mis Tachwedd 2021 cyn i’r Prif Gwnstabl newydd Dr Richard Lewis ddod i’w swydd,” meddai.

“Ond erbyn 3 Hydref eleni, ni fu unrhyw gyhoeddiad cyhoeddus o’r penderfyniad hwn, a doedd dim ymgynghoriad â’r cymunedau sydd am gael eu heffeithio.

“Swyddogion Ymateb yr Heddlu sy’n darparu’r ymateb rheng flaen cyntaf i ystod eang o ddigwyddiadau, gan gynnwys sefyllfaoedd cymhleth ac weithiau achosion o wrthdaro. “Mae’n ofynnol iddyn nhw gyrraedd digwyddiadau yn gyflym, cymryd rheolaeth gychwynnol ac asesu unrhyw fygythiadau uniongyrchol neu risg o niwed.

“Nhw yw ein hymatebwyr cyntaf i ddigwyddiadau brys.

“Dydy israddio gwasanaeth rheng flaen mor hanfodol ddim yn dderbyniol.”

Ymateb Heddlu Dyfed Powys

Rhoddodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed Powys ddatganiad ynglŷn â’r newidiadau fis Tachwedd, gan ddweud na fydd unrhyw doriadau drwyddi draw.

“Bydd dim gostyngiad yn y gwasanaeth yng Ngheredigion, nac unrhyw le arall yn Dyfed Powys,” meddai’r llefarydd.

“Rydyn ni’n gwneud newidiadau i’r ffordd yr ydyn ni’n delio ag ymchwiliadau, a fydd yn cael eu gweithredu ym mis Tachwedd.

“Yn syml, bydd y rhan fwyaf o’n hymchwiliadau yn cael eu trin gan ddau dîm ymroddedig newydd, wedi’u lleoli mewn gorsafoedd lleol.

“Bydd y timau hyn yn cynnwys cymysgedd o ymchwilwyr swyddogion a staff, a bydd rhai ohonyn nhw’n dod o’n carfan ymateb gyfredol. Bydd hyn yn sicrhau bod gan y timau newydd hyn y gallu i gynnal ymchwiliadau cymesur, gwella cysylltiad â dioddefwyr, a lleihau’r galw ar dimau rheng flaen.

“Yn y cyfamser, bydd rolau swyddogion ymateb yn gliriach – eu rhyddhau i ganolbwyntio ar fynychu digwyddiadau, ymateb i faterion cymunedol, a phlismona ein strydoedd yn rhagweithiol.

“Felly yn gyffredinol bydd gennyn ni’r un nifer o swyddogion ag sydd gennyn ni nawr, ond bydd eu ffocws yn newid: bydd rhai yn ymroddedig i waith ymchwilio a bydd rhai yn canolbwyntio’n llwyr ar ddyletswyddau ymateb traddodiadol.”

“Parhau i fod yn weladwy”

“Rydyn ni’n credu mai hyn yw’r defnydd gorau o’n pobl a’u sgiliau, a bydd yn ein galluogi i wella’r amser y mae’n ei gymryd i gofnodi troseddau, ymateb i ddioddefwyr a’u diweddaru, a chynnal ymchwiliadau,” meddai Heddlu Dyfed Powys.

“Byddwn yn parhau i fod yn weladwy yn ein cymunedau, gyda’r nod yn y pen draw o swyddogion ymateb yn treulio mwy o amser ar waith plismona rhagweithiol nag y maen nhw’n ei wneud ar hyn o bryd.”