Bu farw dyn mewn wedi i dri char fod mewn gwrthdrawiad ym Mhowys.

Fe ddigwyddodd y ddamwain ar yr A490 ger Cegidfa o gwmpas 8:00 fore heddiw (dydd Mawrth, 5 Hydref), ac roedd y ffordd yn parhau i fod ar gau am 14:00.

Mae gyrwyr yn cael eu hannog i osgoi’r ardal, a dewis ffordd amgen i deithio.

Does dim gwybodaeth am y gyrrwr a fu farw eto.

Ymchwilio

“Mae Heddlu Dyfed Powys yn ymchwilio i wrthdrawiad traffig ffordd tri cherbyd a ddigwyddodd tua 8am y bore yma, dydd Mawrth 5 Hydref 2021, ar yr A490 ger Cegidfa, Powys,” meddai datganiad yr heddlu.

“Yn anffodus bu farw’r gyrrwr gwrywaidd ar un o’r cerbydau yn y fan a’r lle. Mae perthynas agosaf wedi cael eu cynghori ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.

“Mae’r ffordd yn parhau ar gau gyda dargyfeiriadau ar waith. Cynghorir modurwyr i osgoi’r ardal os yn bosibl.

“Gofynnir i unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad gysylltu â Heddlu Dyfed Powys, naill ai ar-lein yn: https://bit.ly/DPPContactOnline, drwy e-bostio 101@dyfed-powys.pnn.police.uk, neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu rhif chyfeirnod: DP-20211005-03.

“Os ydych chi’n fyddar, trwm eich clyw, neu â nam ar eich lleferydd, y rhif di-argyfwng yw 07811 311 908.”