Mae dyn o Gwm Rhondda wedi cael ei wahardd rhag cadw cwningod am dair blynedd ar ôl cadw 15 cwningen mewn cawell “anaddas”.

Wedi i swyddogion yr RSPCA ddarganfod y cwningod mewn cawell moel wedi’i wneud â weiars, fe wnaeth yr heddlu weithredu gwarant llys yn erbyn Dean James, 38.

Plediodd James, o Lwynypia, yn euog i dair trosedd dan y Ddeddf Llesiant Anifeiliaid yn Llys Ynadon Merthyr.

Clywodd y llys fod y cwningod yn cael eu cadw yn y cawell heb wely, dim i wella eu hamgylchedd, na dim byd addas i’w gwarchod rhag y tywydd.

Roedd James wedi methu â rhoi gofal milfeddygol cywir i’r cwningod chwaith, ac roedd ganddyn nhw gyflyrau fel llid yr amrannau, llid y croen, cloffni ac afiechydon niwrolegol.

Dioddef

Fe wnaeth gyfaddef bod ei fethiant i roi gofal milfeddygol cywir i un o’r cwningod, a oedd yn gloff, wedi golygu ei bod hi wedi dioddef.

Dioddefodd cwningen wen arall yn sgil y gwres.

Ynghyd â chael ei wahardd rhag cadw cwningod am dair blynedd, bydd rhaid i James wneud 80 awr o waith di-dâl, talu £400 mewn costau a £95 o dâl dioddefwr ychwanegol.

Cafodd 12 mis o orchymyn cymunedol hefyd.

Anaddas

Mae’r 15 cwningen yn derbyn gofal gan yr RSPCA, a bydden nhw’n cael eu hailgartrefu’n fuan.

Ar ôl y gwrandawiad, dywedodd Julie Fadden, un o ymchwilwyr yr RSPCA, bod “cwningod yn gallu gwneud cymdeithion gwych – ond mae’n hanfodol bod eu gofynion yn cael eu hateb; gan gynnwys sicrhau bod amgylchedd iawn iddyn nhw fyw ynddi. Doedd hynny ddim yn digwydd yma, yn syml”.

“Roedd y cwningod hyn yn byw mewn cawell rhwyllau gwifrog hynod anaddas a doedden nhw ddim yn derbyn y gofal milfeddygol oedd wir ei angen arnyn nhw,” meddai.

“Yn ffodus, mae’r 15 cwningen dan ofal yr RSPCA nawr, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ddod o hyd i gartrefi newydd cariadus, addas iddyn nhw yn y dyfodol agos.”