Amcangyfrifir fod 330,000 o blant wedi cael eu cam-drin yn rhywiol o fewn yr Eglwys Gatholig yn Ffrainc dros y 70 mlynedd ddiwethaf.

Dengys adroddiad fod cyfanswm yn cynnwys camdriniaethau ers 1950 gan 3,000 o offeiriaid a phobol eraill oedd yn gysylltiedig â’r eglwys.

Fe wnaeth yr awdurdodau Catholig guddio’r gamdriniaeth mewn “ffordd systemig” dros ddegawdau, meddai llywydd y comisiwn wnaeth yr adroddiad, Jean-Marc Sauve.

Gofynnodd pennaeth cynhadledd esgobion Ffrainc am faddeuant gan ddioddefwyr, ac mae’n cyfarfod i drafod y camau nesaf.

Gofynnodd y comisiwn wrth yr eglwys gymryd camau pendant, gan gondemnio “ddiffygion” a “thawelwch”. Fe wnaethon nhw hefyd alw ar wladwriaeth Ffrainc i helpu i wneud iawn â dioddefwyr, yn enwedig mewn achosion sydd ry hen i’w herlyn drwy’r llysoedd.

Roedd tua 80% o’r dioddefwyr yn fechgyn.

“Mae’r goblygiadau’n rhai difrifol iawn,” meddai Jean-Marc Sauve.

“Fe wnaeth tua 60% o’r dynion a’r menywod a gafodd eu cam-drin yn rhywiol ddod ar draws problemau mawr yn eu bywydau rhywiol neu sentimental.”

“Bradychiad”

Mae dioddefwyr wedi croesawu’r adroddiad, gan ddweud ei fod yn hir-ddisgwyledig.

Dywedodd Francois Devaux, pennaeth y grŵp dioddefwyr Le Parole Liberee, ei bod yn “drobwynt yn ein hanes”.

Condemniodd y gwaith o guddiad y gwir a wnaeth ganiatáu “troseddau torfol ers degawdau,” ac ychwanegodd: “Ond yn waeth fyth, roedd yna fradychiad: bradychu ymddiriedaeth, bradychu moesoldeb, bradychu plant, bradychu diniweidrwydd.”

Dywedodd Olivier Savignac, pennaeth grŵp dioddefwyr arall, Parler et Revivre, wrth yr Associated Press fod y gyfradd rhwng nifer y camdrinwyr a dioddefwyr yn “frawychus i gymdeithas Ffrainc, i’r Eglwys Gatholig”.

Condemniodd yr eglwys am drin y fath achosion fel eithriadau, yn hytrach na phrofiadau torfol a disgrifiodd sut gafodd ei gam-drin yn 13 oed gan gyfarwyddwr gwersyll Catholig.

“Roeddwn i’n gweld yr offeiriad hwn fel rhywun da, person gofalgar na fyddai byth yn fy mrifo,” meddai Olivier Savignac.

“Ond pan wnes i ffeindio fy hun yn hanner noeth ar y gwely hwnnw ac roedd e’n fy nghyffwrdd fe wnes i sylwi bod rhywbeth o’i le. Ac rydyn ni’n cadw hyn, fel syst sy’n tyfu, fel pydredd tu mewn i gorff y dioddefwr a meddylfryd y dioddefwr.”