Mae nifer y marwolaethau wythnosol yn ymwneud â Covid-19 ar eu huchaf ers dechrau mis Mawrth.

Cafodd 88 o farwolaethau yn ymwneud â Covid-19 eu cofrestru yng Nghymru yn yr wythnos hyd at 24 Medi, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae hynny 22 yn uwch na’r wythnos flaenorol.

Daw hyn yn dilyn cynnydd yn nifer y marwolaethau wythnosol dros y tair wythnos diwethaf.

Mae cyfanswm y marwolaethau yn ymwneud â Covid-19 yng Nghymru ers dechrau’r pandemig bellach yn 8,280, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Betsi Cadwaladr

Yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yr oedd y nifer uchaf o farwolaethau, gyda 25 o bobol yn marw yn yr wythnos hyd at 24 Medi.

Roedd 21 o farwolaethau yn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, tra bod 17 o farwolaethau yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin aBevan,

Roedd 10 marwolaeth ym Mae Abertawe, chwech o fewn ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda, pump ym Mhowys, a phedwar yn ardal Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro.

Bu farw 11 o breswylwyr cartrefi gofal yn yr un cyfnod, sef y nifer wythnosol uchaf ers dechrau mis Mawrth.

Ceredigion oedd yr un unig sir lle na chafodd yr un farwolaeth yn ymwneud â Covid-19 ei chofrestru yn yr wythnos hyd at 24 Medi, tra bod Rhondda Cynon Taf â’r nifer uchaf, sef 13.

Llai yn marw nag yn yr ail don

Mae’r ffigyrau yn dangos bod llau o bobol yn marw yn ystod trydedd don y pandemig.

374 o farwolaethau sydd wedi cael eu cofrestru hyd yma, sy’n cyfateb i dair marwolaeth y dydd ar gyfartaledd.

Fodd bynnag, mae’r cyfartaledd wedi codi i 8 y dydd dros y mis diwethaf.

Mae hynny’n cymharu â 25 marwolaeth y dydd ar gyfartaledd yn ystod yr ail don, a thros 50 marwolaeth y dydd ar y pwynt yma yn yr ail don.