Mae’r Llywydd Elin Jones wedi gwrthod cais gan Gareth Davies AoS i wneud Datganiad Personol yn y siambr, yn dilyn ei absenoldeb yn y bleidlais i gyflwyno pas Covid yng Nghymru neithiwr (Hydref 5).

Roedd yr aelod ceidwadol yn bwriadu gwneud Datganiad Personol ar lawr y siambr i esbonio pam nad oedd yn gallu cymryd rhan yn y bleidlais.

Gwrthodwyd ei gais gan y Llywydd gan ei fod wedi cael ei ryddhau yn y wasg ac ar gyfryngau cymdeithasol.

Gwnaeth Gareth Davies, Aelod o’r Senedd dros Ddyffryn Clwyd, fethu’r bleidlais dyngedfennol tra’r oedd yng nghynhadledd y Blaid Geidwadol ym Manceinion.

Roedd ei absenoldeb yn golygu bod Llywodraeth Cymru wedi ennill o un bleidlais – 28 o blaid 27 yn erbyn – i gyflwyno pas Covid yng Nghymru, pan roedd disgwyl y gallai’r llywodraeth golli.

Gwrthod datganiad personol

Eisoes fe ddywedodd y Llywydd y Senedd, Elin Jones, ei fod wedi cael “pob cyfle i fod yn bresennol” gan gynnig cymorth TGCh i’r aelod pan nad oedd modd cael gafael arno.

“Fe dderbyniais i’r hysbysiad hwnnw cyn 13:30 heddiw a doeddwn heb hyd yn oed gael amser i ystyried heb sôn am gytuno iddo,” meddai Elin Jones.

“Cyn 14:15 fe wnaeth cynnwys y datganiad hwnnw gael ei rannu gyda’r wasg ac ar Twitter.

“Rwy’n ystyried bod y datganiad, felly, ym meddiant y cyhoedd ac nad oes angen gwneud datganiad i’r siambr.”

Fe atgoffodd hi aelodau am bwysigrwydd bod yn bresennol mewn da bryd cyn pleidleisio.

‘Dig’

Fe ddywedodd Gareth Davies ei fod yn “ddig” nad oedd yn gallu cael mynediad at system bleidleisio o bell y Senedd.

“Dw i’n hynod flin a dig am ddigwyddiadau neithiwr a fy anallu i bleidleisio yn erbyn y pasbortau brechu,” meddai Gareth Davies mewn datganiad.

“Neithiwr, fe wnaeth problemau technegol olygu fy mod i methu cael mynediad at y system bleidleisio.

“Trwy gydol y cyfnod pleidleisio, roeddwn i mewn cysylltiad â’r Prif Chwip ac aelodau staff eraill y Ceidwadwyr Cymreig gan ymdrechu i ddatrys y problemau TG.

“Mae’r senedd yn gweithredu drwy drefn hybrid ar hyn o bryd sy’n golygu mai dim ond hanner ein cynrychiolwyr sy’n gallu pleidleision yn y siambr, gyda’r lleill yn pleidleisio o lefydd eraill.

“Roeddwn i’n gweithio ac yn cynrychioli’r grŵp yng nghynhadledd y Blaid Geidwadol a byddwn i wedi gallu pleidleisio o bell pe bawn wedi gallu cael mynediad at yr offer pleidleisio o bell.”

Cyn i’r Llywydd wrthod ei gais fe gyhoeddodd Olygydd Gwleidyddol ITV Cymru Wales, Adrian Masters, y byddai Gareth Davies yn gwneud datganiad i’r Senedd yn hwyrach heddiw.

Fe ddywedodd “Pasys Covid: Datganiad gan Gareth Davies, AoS doedd ddim yn gallu pleidleisio neithiwr. Bydd yn gwneud datganiad personol i’r Senedd y prynhawn yma.”

Wrth ymateb i sylwadau Gareth Davies AoS ar Twitter mae Cwnsler Cyffredinol Cymru, Mick Antoniw AoS, wedi cwestiynu cynnwys ei ddatganiad: “Pam na wnaeth e ffonio’r Llywydd? Neu bleidleisio dros y ffôn? Pam nad oedd wedi mewngofnodi? Heb baru [gydag aelod arall]? Rhyfedd iawn mi wn”

Bygythiad

Mae’r Llywydd hefyd wedi crybwyll y protestwyr oedd wedi ymgynnull y tu allan i Dŷ Hywel ddoe oedd yn golygu na all aelodau na staff adael yr adeilad.

“Rydw i am gadarnhau i aelodau bod bygythiadau i’w diogelwch a lles ein staff a’n hymwelwyr yn gwbl annerbyniol a bod gormod ohonoch chi wedi profi bygythiadau o’r math wrth rai protestwyr neithiwr,” meddai Elin Jones.

“Mae rhan fwyaf ohonom ni wedi bod yn rhan o brotest ddi-drais, ond mae protest fygythiol i les unigolion naill ai yma yn y Senedd neu unrhyw le arall yng Nghymru yn gwbl annerbyniol.

“Mi fydd yr awdurdodau perthnasol yn adolygu’r digwyddiadau neithiwr ac mi fyddai mewn sefyllfa i ddiweddaru aelodau maes o law.”

Bydd y pasys Covid yn dod i rym yng Nghymru ar 11 Hydref, gan olygu bod rhaid i bobol gael eu brechu’n llawn neu gael prawf llif unffordd negyddol o fewn 48 awr cyn cael mynediad i glybiau nos a digwyddiadau mawr.

Roedd Cymdeithas Diwydiannau Nos Cymru wedi galw am bleidlais arall, ond mae Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru wedi diystyru hynny.

“Nerfusrwydd a rhwystredigaeth” ymhlith staff oedd methu gadael y Senedd oherwydd protest

Protestwyr wedi ymgynnull y tu allan i adeilad Tŷ Hywel ym Mae Caerdydd wedi’r bleidlais dros gyflwyno pas Covid yng Nghymru

Dim bwriad cynnal pleidlais arall ar gyflwyno pasys Covid-19

Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd, yn dweud y bydd Llywodraeth Cymru’n bwrw ymlaen gyda’r cynllun