Mae Cymru yn wynebu her a hanner wrth iddyn gychwyn y Chwe Gwlad draw yn Iwerddon bnawn Sadwrn…
Ar drothwy Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni, mae Cennydd Davies, sylwebydd rygbi rhaglen Y Clwb Rygbi ar S4C, yn dweud nad oes “dim lle anoddach i fynd” na Dulyn i ddechrau’r gystadleuaeth yn erbyn Iwerddon ddydd Sadwrn.
Er mai nhw yw’r pencampwyr presennol, mae Cymru’n cychwyn y tu ôl i Ffrainc, Lloegr a’r Gwyddelod, o ran y ffefrynnau gyda’r bwcis – ods sydd “ddim yn annheg o gwbl”, yn ôl Cennydd.
“Pedwerydd ffefryn? Dyw e ddim yn annheg o gwbl, ond mae’n rhaid cofio wnaethon ni brofi pawb, bron, yn anghywir y llynedd,” meddai. “Ond mae’n deg dweud mai Iwerddon yw’r ffefrynnau clir ar ddechrau’r gystadleuaeth am fuddugoliaeth yn Nulyn.”
Does ond gobeithio nad yw Cymru wedi edrych yn fanwl ar y llyfrau hanes oherwydd dydy’r crysau cochion ddim wedi curo’r Gwyddelod mewn gêm gystadleuol yn Stadiwm Aviva ers 2012. Ar bapur, o leiaf, dylai’r rhediad hwnnw barhau i’r tîm yn y gwyrdd gyda chynifer o brif chwaraewyr Cymru allan gydag anafiadau. Yn ôl Cennydd Davies, mae’r amheuon am rai o’r chwaraewyr fydd yn gorfod camu i’r bwlch yn parhau.
“Roedd marciau cwestiwn am dipyn ohonyn nhw llynedd, on’d oedd, a dyw’r sefyllfa ddim yn annhebyg eleni,” meddai. “Hynny yw, mi’r oedd y canlyniadau’n gymysg yn ystod Cyfres Ryngwladol yr Hydref [curo Awstralia a Ffiji ond colli yn erbyn De Affrica a Seland Newydd], ac mae yna lu o anafiadau yn ogystal.
“Pan rydych chi’n ystyried fod y rhai sy’n absennol – Alun Wyn Jones, Justin Tipuric, Josh Navidi, George North, Taulupe Faletau ddim yn gallu cychwyn y gystadleuaeth, Ken Owens – byddai unrhyw dîm yn diodde’ heb y chwaraewyr hynny. Felly mae e yn mynd i fod yn anodd.”
Yn blwmp ac yn blaen, mae’r absenoldebau’n cyfateb i werth 700 o gapiau o brofiad ac mae hynny wedi arwain nifer o arbenigwyr, gan gynnwys cyn-gapten a chyn-is hyfforddwr Cymru, Rob Howley, i wfftio’u gobeithion.
Daw dydd y bydd mawr y rhai bychain
Yn absenoldeb y capten yn yr ail reng, Alun Wyn Jones, daw cyfle wrth glosio at ei ganfed cap i Dan Biggar arwain ei wlad am y tro cyntaf. Yn ôl Cennydd Davies, y maswr sy’n chwarae i glwb Northampton yw’r “dewis naturiol” i fod yn gapten, ac mae ganddo fe’r rhinweddau angenrheidiol.
“Mae’n chwaraewr proffesiynol, mae’n chwaraewr ffyrnig, yn ddigyfaddawd ar y cae ac mae e’n sicr o’i le yn y tîm,” meddai. “Dyna’r peth, mi’r oedd yn rhaid i Wayne Pivac ddewis chwaraewr roedd e’n gallu ymddiried ynddo fe i wneud y rôl, ond hefyd oedd yn ddewis cynta’ i ddechrau pob gêm. Dwi ddim yn credu oeddech chi’n gallu dweud hynny am chwaraewyr eraill wedi i Alun Wyn Jones fynd, a Ken Owens a Justin Tipuric, a fyddai wedi bod yn ddewisiadau i gamu i’r adwy.
“Adam Beard? A yw e’n sicr o’i le? A ydyw e’n barod ar gyfer y rôl? Dw i ddim yn siŵr. Felly Biggar oedd y dewis naturiol. Mae e’n cystadlu’n frwd ar y cae, dyna’r un peth sy’n sicr.”
Brwydr y maswyr yn Nulyn
Un sydd eisoes wedi ennill ei ganfed cap yw gwrthwynebydd Biggar yn safle’r maswr a chapten y gwrthwynebwyr yn Nulyn, Jonny Sexton. Yn ôl Cennydd Davies, mae hi am fod yn frwydr “ddiddorol ynddi’i hun” rhwng y ddau hen ben, ond yn un a fydd yn cael ei phenderfynu gan y pac o flaen y ddau faswr.
“Dw i’n poeni am y llwyfan fydd Dan Biggar yn ei gael yn Nulyn. Pan ydych chi’n edrych ar ddyfnder [carfan] Iwerddon, pan ydych chi’n edrych ar eu pac grymus nhw, rydych chi’n meddwl am Tadhg Beirne, y triawd yn y rheng ôl – Caelan Dorris, Jack Conan, Josh van der Flier, er mae yna amheuaeth amdano fe [o ran ei ffitrwydd] – mae’r enwau yma wedi serennu yn Ewrop, maen nhw wedi serennu ar y lefel ryngwladol.
“Felly mae’n hollol ddibynnol ar y llwyfan sydd o’u blaenau nhw, a bydd hynny’n mynd yn bell i benderfynu’r gêm. Ond dau chwaraewr o fri [yw Sexton a Biggar], dau chwaraewr hynod brofiadol efallai sy’n dod i ddiwedd eu gyrfaoedd nhw, efallai y ddau ddim yn rhif deg sydd yn arddangos lot o chwarae ffwrdd-â-hi ac sy’n fwy ceidwadol ond sy’n gwneud y pethau iawn, yn sicr. Felly ie, mae honna’n argoeli i fod yn dipyn o frwydr.”
Er bod y chwyddwydr yn mynd i fod ar y ddau rif deg, bydd yn rhaid i Biggar edrych arno fe ei hun fel capten ac arweinydd yn ystod y gystadleuaeth hon.
“Un peth fydd angen iddo fe wneud, efallai, bydd angen iddo fe addasu’r modd mae e’n siarad ar y cae – ei ddeialog gyda’r dyfarnwr,” meddai Cennydd. “Wnaeth e gydnabod hynny yn y gorffennol. Efallai bod ei emosiynau fe wedi mynd yn ormod ar adegau. Ond fe oedd y dewis naturiol [i fod yn gapten], fe yw’r chwaraewr mwya’ profiadol, a dw i ddim yn credu, pan ydych chi’n edrych ar y chwaraewyr eraill, fod yna ryw lawer o opsiynau eraill.”
Pe bai Cymru, rywsut, yn gallu cael dechrau da yn Nulyn a chael pwyntiau ar y bwrdd, bydden nhw’n ddigon hyderus ar drothwy’r gêm gyntaf yng Nghaerdydd yn erbyn yr Alban sydd i ddilyn. Bydd y ddwy gêm wedyn, yn erbyn Lloegr a Ffrainc yn bryder unwaith eto ac fe allai’r cyfan fod yn ofer erbyn i ni gyrraedd y gêm olaf yn erbyn yr Eidal yng Nghaerdydd ar y penwythnos olaf ganol mis Mawrth.
“O ystyried bod Cymru’n dechrau’r ymgyrch yn erbyn y Gwyddelod yn Nulyn, dw i ddim yn credu bod yna le anoddach i fynd ar hyn o bryd,” meddai Cennydd. “Mae’r Gwyddelod newydd guro Seland Newydd yn yr hydref [29-20 yn Nulyn], wrth gwrs, ac mae eu taleithiau nhw’n hedfan yn uchel yn Ewrop, y pedwar ohonyn nhw drwodd i’r rownd nesaf yn groes i dimoedd Cymru, wrth gwrs – does dim un wedi sicrhau eu lle nhw yn yr ail rownd, a hynny’n gysgod ar y cyfan.
“Does dim dwywaith, mae hynny’n bryder i Wayne Pivac ar drothwy’r gystadleuaeth yma.”
Iwerddon v Cymru yn fyw ar S4C, y gic gyntaf am 2.15 bnawn Sadwrn
A nos Wener, Iwerddon v Cymru dan 20 ar S4C, y gic gyntaf am 8