Anghofiwch am y ‘Teddy Bears’ Picnic’ ac ‘O sole mio’, fe fydd fan hufen iâ yng Ngheredigion yn chwarae ‘odlau’r tyner engyl’ y mis nesa’ …

Un sy’n sgut am feddwl am ffyrdd difyr a chreadigol o gyflwyno ein diwylliant yw’r dawnsiwr Eddie Ladd.

Siawns y byddai pawb yn cytuno bod Iâs, ei phroject diweddaraf, yn syniad a hanner – un y byddai neb llai na’r emynydd mawr Pantycelyn ei hun yn bownd o fod wedi rhoi sêl ei fendith iddo.