Pryd wnaethoch chi gychwyn actio?
Yn ifanc iawn, yn bump neu chwech oed, yn chwarae Oliver mewn sioe yn Ysgol Gynradd Pencarnisog.
Pan oeddwn i tua wyth oed wnes i orfodi fy rhieni i fynd â fi i Lerpwl ar gyfer clyweliad ar gyfer rhan bach yn y musical Beauty and the Beast, a dw i ddim yn gwybod sut, ond mi wnes i gael y rhan.
A dyna oedd y peth cyntaf proffesiynol i mi wneud.
Fues i yn gweithio eithaf tipyn efo S4C trwy gyfnod ysgol – Eldra, Treflan, Iechyd Da.
Ac roeddwn i yn actio ‘Liam’ yn Rownd a Rownd am wyth mlynedd, drwy ysgol uwchradd i gyd.
Beth sydd ar y gweill eleni?
Mae yna gyfres newydd dw i wedi bod yn brysur iawn yn gweithio arni yn cael ei darlledu, sef cyfres o’r enw Stad sydd yn rhyw fath o spin-off o’r hen gyfres boblogaidd Tipyn o Stad.
Dw i wedi bod yn lwcus i chwarae un o’r prif gymeriadau – fedra i ddim dweud mwy ar hyn o bryd!
Ond mae o’n gymeriad sydd wedi bod yn lot o hwyl i mi, fel actor.
Ydach chi’n cofio’r Tipyn o Stad gwreiddiol (fu ar S4C rhwng 2002 a 2008)?
Doeddwn i ddim yn ei wylio fo ar y pryd, roeddwn i ychydig bach yn ifanc.
Ond dw i wedi ei wylio fo ar Clic ac mae’r cymeriadau yn ffantastig, a dw i’n edrych ymlaen at weld be’ fydd pobol yn feddwl o Stad.
Pa waith actio arall fuoch chi’n ei wneud yn ddiweddar?
Dros y Dolig ro’n i yn gweithio efo Theatr Clwyd a Pontio, yn gwneud sioe i blant.
Mae o’n rhywbeth dw i’n ei wneud pob blwyddyn ers pedair blynedd, ac mae’r cynhyrchiad wedi tyfu a thyfu.
Y tro yma wnaethon ni sioe Gwrach yr Iâ yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Roedd yn brofiad gwych cael fy nghyflogi fel actor a cherddor, yn cyfansoddi’r caneuon yn ogystal â pherfformio, canu, chwarae gitâr a thrio dawnsio!
Sut brofiad yw ceisio diddanu plant?
Wel, efo’r sioe yma roedden ni yn trio cael y plant yn rhan ohono fo, yn gofyn mwy ohonyn nhw na be’ fysa chi o gynulleidfa o oedolion.
Fysa ni yn dysgu cân iddyn nhw ar y dechrau, a dweud: ‘Canwch y gân yma os ydach chi eisiau help’.
Ac wedyn pan roedd rhywbeth yn digwydd i’r prif gymeriad, roedd y plant yn syth bin yn dechrau canu’r gân, a bysa help yn dod!
Dyna fydda profiad theatr cynta’ lot o’r plant yna, ac mae yn bwysig eu bod nhw’n cael y profiadau yna yn gynnar.
Oes yna hanes o actio yn y teulu?
Roedd fy mam, Mandy Roberts, yn actio, cyn i mi gael fy ngeni… dw i wastad yn mwydro pobol mai fy job gynta’ oedd ar C’Mon Midffîld – Y Mwfi. Achos roedd mam yn hwnna, yn actio mam Wali Tomos yn ifanc, ac roedd hi’n feichiog efo fi ar y pryd.
Felly dw i’n dweud wrth bawb mai honna oedd job gynta’ fi, achos roeddwn i yn bol mam!
Sut brofiad oedd mynd i Lundain i astudio yn y London Academy of Music & Dramatic Art?
Dipyn o sioc am yr wythnosau cyntaf – ‘ydw i i fod yma?’ math o beth.
Ond wnaeth hi ond cymryd ychydig fisoedd i fi sylweddoli pa mor wych oedd y lle a wnes i wir fwynhau. Yr hiraf yn y byd roeddwn i yna, y mwyaf roeddwn i yn mwynhau.
Beth yw eich hoff ffilm?
Y ffilm gyntaf gafodd afael arna fi oedd Rocky.
Ers faint ydach chi’n cefnogi rhanbarth rygbi Caerdydd?
Dilyn Cymru’r oeddwn i i ddechrau, a tra yn coleg wnes i ddechrau dilyn y rhanbarthau i gyd – mynd i weld y gemau mewn sports bars yn Llundain.
Ac am ryw reswm na fedra i egluro, wnes i jesd shifftio i gefnogi Caerdydd yn fwy a fwy.
A dw i bellach yn byw yma, ac wedi bod efo tocyn tymor cwpwl o weithiau.
Beth yw eich atgof cynta’?
Eistedd ar lin fy mam yn sleidio lawr y grisiau yn ein tŷ cyntaf ni yn Llangefni.
Beth yw eich ofn mwya’?
Môr agored.
Beth ydych chi’n ei wneud i gadw’n heini?
Fydda i’n mynd i’r jim bob hyn a hyn, a rhedeg. Dw i wedi gwneud hanner marathon Caerdydd. Efallai wna i farathon rhyw ddiwrnod…
Beth sy’n eich gwylltio?
Dim llawer… pobol yn siarad am bobl eraill, efallai, neu’r newyddion.
Pwy fyddech chi’n gwahodd i’ch pryd bwyd delfrydol… a beth fyddai’r wledd?
Christopher Nolan – i mi gael rhoi fy CV iddy fo.
Y diweddar actor Robin Williams.
Dax Shepard – actor a digrifwr dw i wedi bod yn gwrando arno ar ei bodlediad.
A Vietnamese curry i’w fwyta.
Gan bwy gawsoch chi sws gorau eich bywyd?
Fy nghariad, wrth gwrs!
Wnaethon ni gyfarfod yn y côr yn [Ysgol] Glanaethwy.
Pa air neu ddywediad ydych chi’n gorddefnyddio?
Fatha.
Hoff albwm?
Dark Side Of The Moon neu Wish You Were Here gan Pink Floyd.
Hoff ddiod feddwol?
Wisgi coctel.
Pa fath o swyddi ydech chi wedi eu gwneud rhwng y jobsus actio?
Rydw i wedi gweithio mewn sawl caffi, wedi gweithio mewn events yn Llundain, yn gweini bwyd.
Fysa chi yn Wembley un diwrnod, art gallery y diwrnod wedyn, ac mewn house party rywun efo lot o bres y diwrnod wedyn – boncyrs!
Ddes i ar draws ambell aelod o’r Teulu Brenhinol ac ambell i ffwtbolar, ond dw i ddim yn dda iawn efo pêl-droed, felly fyswn i ddim yn gallu dweud pwy oedden nhw.
A dw i wedi bod yn painter and decorator, wedi delifro gwin mewn fan, a gweithio mewn clwb nos…
Be’ fu’r gwaith mwya’ heriol?
Gweithio i Deliveroo [yn dosbarthu take-aways] ar gefn beic yng Nghaerdydd… fydda i ddim yn rhuthro nôl i wneud hynny.
Mae gen i barch mawr i’r rhai sy’n gwneud y gwaith yna, ti angen bod yn ffit.
Wnes i bara rhyw ddeufis, ac roedd o’n ffordd dda o ddod i adnabod y ddinas.