Mae tîm dan 20 Cymru yn wynebu talcen caled iawn heno wrth iddyn nhw gychwyn Pencampwriaeth y Chwe Gwlad oddi cartref yng Nghorc, ail ddinas fwyaf Gweriniaeth Iwerddon.
Ond mae prif hyfforddwr y tîm yn dawel hyderus y bydd y bechgyn yn medru cychwyn gyda buddugoliaeth yn erbyn y Gwyddelod.
“Rydym ni gyd yn cystadlu ym myd chwaraeon er mwyn bod y gorau. Ein hamcan yw ennill Camp Lawn,” meddai Byron Hayward.
“Mae yn rhaid i chi gael y meddylfryd yna. Does dim pwynt o gwbl bod yma os nad ydan ni eisiau ennill… dw i wir yn credu y gallwn ni fod yn gystadleuol yn erbyn pob un o’n gwrthwynebwyr.”
Ag yntau yn gyn-hyfforddwr amddiffyn y Scarlets ac wedi chwarae tro Gymru, mae Hayward yn gwybod yn iawn beth sydd ei angen er mwyn bod yn llwyddiannus.
“Os fedrwn ni sicrhau digon o feddiant, rydw i’n grediniol y gallwn ni achosi problemau i dimau eraill,” meddai.
Profiad “yn hollbwysig”
Alex Mann, blaenasgwellwr Caerdydd, fydd capten Cymru ar gyfer yr ornest heno sy’n cychwyn am wyth ac yn cael ei dangos yn fyw ar S4C.
Efan Daniels fydd yn safle’r bachwr a Nathan Evans yn safle’r prop pen tynn.
A bydd Harri Williams ac Eddie James o glwb y Scarlets ymysg yr olwyr, ill dau wedi cael profiad o chwarae yn y Bencampwriaeth dan 20 y llynedd.
Ac mae Byron Hayward yn dweud ei bod “yn hollbwysig” cael y profiad yna yn y garfan.
“Mae cael bechgyn yn dychwelyd ar gyfer yr ail flwyddyn yna yn fantais enfawr o ran rhoi arweiniad, codi’r safon yn y sesiynau ymarfer, ond yn bwysicach fyth ar y cae. Fe fyddwn ni yn dibynnu ar y bechgyn hyn i osod esiampl, ac i fod yn deg, dyna beth maen nhw wedi ei wneud hyd yma.”
Tra bo’r hyfforddwr yn sôn am barchu’r gwrthwynebwyr heno, mae yn mynnu nad oes unrhyw le i’w hofni.
“Momentwm yw popeth yn y Chwe Gwlad… os fedrwch chi gychwyn yn dda gyda buddugoliaeth oddi cartref, mae yn rhoi momentwm i chi.”