Mae Gemau Olympaidd y Gaeaf yn Beijing wedi cychwyn heddiw (dydd Gwener, 4 Chwefror).
Cafwyd seremoni agoriadol artistig a lliwgar gyda sgriniau rhew LED a miliynau o dunelli ciwbig o eira ffug wedi’u pentyrru ar y pistyll yn Zhangjikou.
Ond mae yna ambell gwmwl du, gyda boicot diplomatig yn golygu bod swyddogion Prydain a’r Unol Daleithiau wedi cadw draw o’r seremoni agoriadol.
Ar y llaw arall roedd Arlywydd Rwsia Vladimir Putin yn bresennol, er ei fod yn ymddangos fel petai’n cysgu ar gamera pan ddaeth dirprwyaeth yr Wcráin i mewn i’r stadiwm.
Dewiswyd Beijing fel lleoliad y gemau ym mis Gorffennaf 2015 a hi yw’r ddinas fwyaf erioed i gynnal Gemau’r Gaeaf.
Gemau Olympaidd y Gaeaf 2022 fydd Gemau Olympaidd cyntaf y Gaeaf yn Tsieina, a’r ail Gemau Olympaidd cyffredinol yn Tsieina yn dilyn Gemau Olympaidd yr haf yn 2008.
Mae yno gyfranogwyr annisgwyl eleni gan gynnwys sgiwyr o Haiti ac Eritrea, a Nathan Crumpton, athletwr o America Samoa.