Cymysgedd o gemau cynghrair a gemau pedwaredd rownd y Cwpan FA a gafwyd y penwythnos hwn ac roedd y Cymry yn ei chanol hi ym mhob cystadleuaeth.
*
Cwpan FA
Un o gemau mwyaf diddorol y bedwaredd rownd a oedd honno rhwng Kidderminster o chweched haen y pyramid yn erbyn West Ham sydd yn bumed yn yr Uwch Gynghrair. Roedd sioc ar y gweill wedi i’r Cymro, Alex Penny, roi’r Harriers ar y blaen yn yr hanner cyntaf ond yn ôl y daeth yr Hammers gyda gôl hwyr i orfodi amser ychwanegol a gôl hwyr arall i’w hennill hi yn yr amser ychwanegol hwnnw.
Daeth sioc y penwythnos nos Wener, wrth i Middlesbrough o’r Bencampwriaeth drechu Manchester United yn Old Trafford. Gôl yr un a oedd hi wedi naw deg munud gyda Neil Taylor yn chwarae i’r ymwelwyr. Roedd y cefnwr chwith oddi ar y cae serch hynny erbyn iddi gyrraedd ciciau o’r smotyn a Boro yn ennill o wyth i saith!
Bu’n rhaid i Gaerdydd aros tan ddydd Sul i geisio achosi sioc yn Anfield ond nid felly y bu wrth i Lerpwl ennill o dair gôl i un. Dechreuodd Will Vaulks yng nghanol cae i’r Adar Gleision ac fe greodd Mark Harris argraff yn y llinell flaen yn yr hanner cyntaf ac roedd braidd yn anffodus i beidio ennill cic o’r smotyn.
Daeth Isaak Davies a Rubin Colwill i’r cae fel eilyddion yn yr ail hanner ac fe gyfunodd y ddau ar gyfer gôl gysur gofiadwy ddeg munud o’r diwedd, Colwill yn ennill y bêl yng nghanol cae cyn ei derbyn yn ôl gan Davies a gorffen yn gelfydd. Rhy ychydig rhy hwyr a oedd hynny wrth gwrs ond eiliad i’w chofio i’r Cymro ifanc. Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Sam Bowen.
Unreal experience to play at Anfield today. Shame about the score but nice to grab a goal. Incredible support as always ?? pic.twitter.com/cEOxDNGx4C
— Rubin Colwill (@RubinColwill) February 6, 2022
Colli o ddwy gôl i un wedi amser ychwanegol a fu hanes Plymouth oddi cartref yn Chelsea ddydd Sadwrn. Dechreuodd Luke Jephcott a James Wilson y gêm a thacl wych Wilson yn hwyr yn y 90 munud a orfododd y gêm i amser ychwanegol. Daeth Cymro arall, Ryan Broom, i’r cae wedi hynny ac wedi i Chelsea fynd ar y blaen fe fu bron i Broom ‘sgubo un i gefn y rhwyd ac arwain y gêm i giciau o’r smotyn ond cafodd ei ddwy ergyd hwyr eu harbed.
Chwaraeodd Neco Wiliams ei gêm gyntaf i Fulham ers ymuno ar fenthyg o Lerpwl yr wythnos hon wrth i’r tîm ar frig y Bencampwriaeth deithio i wynebu’r tîm ar frig yr Uwch Gynghrair, Man City. Cymro arall a greodd argraff gynnar serch hynny, Harry Wilson yn creu gôl agoriadol Fabio Carvalho wedi pedwar munud yn unig. Yn ôl y daeth City wedi hynny i’w hennill hi o bedair i un.
Chwaraeodd Sorba Thomas wrth i Huddersfield gyrraedd y bumed rown gyda buddugoliaeth o gôl i ddim yn erbyn Barnsley.
Dechreuodd Ben Davies wrth i Spurs guro Brighton o dair gôl i un ac roedd munudau prin i Joe Rodon oddi ar y fainc hefyd, yn chwarae’r chwarter awr olaf.
Roedd hi’n brynhawn i’w anghofio i Gwion Edwards gyda Wigan yn Stoke ddydd Sadwrn, Nid yn unig y collodd ei dîm y gêm o ddwy gôl i ddim ond cafodd y gŵr o Lanbedr Pont Steffan ei anfon oddi ar y cae ar ôl derbyn dau gerdyn melyn mewn cyfnod o bum munud yn yr ail hanner. Dechreuodd Joe Allen y gêm i Stoke ac ymddangosodd Morgan Fox oddi ar y fainc.
Dechreuodd Tom Lockyer i Luton wrth iddynt guro Caergrawnt o dair gôl i ddim ac roedd ymddangosiad prin i’r gŵr ifanc, Elliot Thorpe hefyd. Yn wir, cic rydd gynnar Thorpe a roddodd dîm Nathan Jones ar ben ffordd, yn croesi i Reece Burke ar gyfer y gôl agoriadol.
Chwaraeodd Fin Stevens y munudau olaf wrth i’w dîm, Brentford, gael cweir gan Everton. Ac mae QPR a George Thomas allan o’r gystadleuaeth hefyd ar ôl colli o ddwy gôl i ddim yn erbyn Peterborough. Ar y fainc yr oedd Dave Cornell i Posh.
Roedd gêm fawr rhwng gelynion canolbarth Lloegr, Nottingham Forest a Chaerlŷr, brynhawn Sul. Dechreuodd Brennan Johnson i’r tîm cartref ac roedd Danny Ward yn y gôl i’r ymwelwyr a theg dweud mai Johnson a gafodd y gorau o’r frwydr.
Daeth trobwynt y gêm wrth i Forest sgorio’r ddwy gôl agoriadol o fewn munud i’w gilydd hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf ac roedd Johnson yng nghanol y ddwy. Croesiad y Cymro a arweiniodd at y gyntaf i Philip Zinckernagel cyn iddo fanteisio ar gamgymeriad amddiffynnol i rwydo’r ail ei hun, yn llithro’r bêl trwy goesau Ward. Aeth Forest o nerth i nerth wedi hynny gan ennill y gêm o bedair gôl i un a Johnson yn seren y gêm.
IT'S THE STAR BOY ?
Brennan Johnson has scored straight from kick-off! ⚡️@NFFC #EmiratesFACup pic.twitter.com/gQMZoxyBln
— Emirates FA Cup (@EmiratesFACup) February 6, 2022
Bournemouth yn erbyn Boreham Wood nos Sul a oedd gêm olaf y bedwaredd rownd. Dechreuodd Chris Mepham ar y fainc i’r Cherries ond nid oedd Kieffer Moore yn y garfan yn dilyn ei drosglwyddiad diweddar o Gaerdydd. Dechreuodd David Stephens i’r ymwelwyr o’r Gynghrair Genedlaethol.
*
Uwch Gynghrair Lloegr
Un gêm yn unig a oedd yn yr Uwch Gynghrair y penwythnos hwn, un ddi sgôr rhwng Burnley a Watford yn Turf Moor. Chwaraeodd Connor Roberts y gêm gyfan ac roedd braidd yn ffodus i beidio ildio cic o’r smotyn am lawio. Ar y fainc yr oedd Wayne Hennessey.
*
Y Bencampwriaeth
Roedd buddugoliaeth annisgwyl a phwysig iawn i Abertawe wrth iddynt groesawu Blackburn i Stadiwm Swansea.com ddydd Sadwrn. Un gôl i ddim a oedd hi, gyda Ben Cabango yn rhan o’r amddiffyn a gadwodd lechen lân yn erbyn ail brif sgorwyr y gynghrair.
Mae Rhys Norringtoon-Davies yn cael rhediad da yn nhîm Sheffield United yn ddiweddar a chwaraeodd eto wrth iddynt drechu Birmingham o ddwy gôl i un nos Wener. Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Jordan James i’r gwrthwynebwyr.
Chwaraeodd Andrew Hughes y gêm gyfan a daeth Ched Evans oddi ar y fainc ar gyfer yr hanner awr olaf wrth i Preston guro Hull o gôl i ddim ddydd Sadwrn.
Nid oedd Chris Maxwell ac Andy King yng ngharfannau Blackpool a Bristol City oherwydd anafiadau.
*
Cynghreiriau is
Chwarter awr yn unig a barodd gêm Joe Morrell wrth i’w dîm Portsmouth golli yn Rhydychen, y Cymro’n derbyn cerdyn coch cynnar am dacl uchel ar Cameron Brannagan. Dechreuodd Billy Bodin i’r gwrthwynebwyr gan greu gôl agoriadol gynnar y tîm cartref. Roedd Kieron Freeman a Louis Thomson yn nhîm Pompey a gollodd o dair i ddwy.
Can only apologise to the fans, staff and lads for today. Needless to say that I didn’t agree with the decision but take responsibility for it. That spirit and togetherness that the boys showed today will take us a long way?
— Joe Morrell (@JoeJMorrell) February 5, 2022
Dyna’r sgôr wrth i Charlton guro Wimbledon hefyd. Chwaraeodd Adam Matthews fel ôl-asgellwr dde ond nid oedd Chris Gunter yn y garfan.
Roedd buddugoliaeth i Wes Burns a Lee Evans gydag Ipswich yn erbyn Gillingham hefyd, un gôl i ddim y sgôr terfynol.
Dathlodd Matthew Smith ei gêm gyntaf i’r MK Dons gyda thri phwynt. Symudodd y chwaraewr canol cae ar drosglwyddiad parhaol o Man City yr wythnos hon yn dilyn cyfnod siomedig ar fenthyg gyda Hull yn hanner cyntaf y tymor. Daeth oddi ar y fainc am y deg munud olaf wrth i’w dîm guro Linclon o ddwy gôl i un. Roedd Regan Poole a Liam Cullen yn nhîm y gwrthwynebwyr.
Cafwyd drama hwyr yn Morecambe wrth i Bolton unioni yn y pedwerydd munud ar ddeg o amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm. Er, nid anafiadau a oedd yn bennaf gyfrifol mewn gwirionedd ond ymddygiad y cefnogwyr cartref. Dechreuodd Declan John a Jordan Williams y gêm i Bolton a John a greodd y gôl hwyr ddramatig i Amadou Bakayoko. Mae Gethin Jones, Josh Sheehan a Lloyd Isgrove yn parhau i fod wedi’u hanafu.
Gôl yr un a phwynt yr un a oedd hi rhwng Fleetwood a’r Amwythig hefyd gydag Ellis Harrison yn chwarae’r gêm gyfan i’r Cod Army.
Yn yr Ail Adran, chwaraeodd Jonny Williams y 90 munud wrth i Swindon golli o ddwy gôl i un yn erbyn Exeter.
*
Yr Alban a thu hwnt
Nid oedd Ryan Hedges na Marley Watkins yng ngharfan Aberdeen wrth iddynt golli o ddwy gôl i un oddi cartref yn erbyn Livingston yn Uwch Gynghrair yr Alban ddydd Sadwrn ond fe gafodd Morgan Boyes ychydig funudau oddi ar y fainc i’r tîm cartref.
Dechreuodd Dylan Levitt gêm gyfartal ddi sgôr Dundee United yn erbyn St Johnstone ond cael ei eilyddio ar hanner amser. Yr hanner cyntaf yn unig a chwaraeodd Christian Doidge hefyd wrth i Hibs golli o gôl i ddim yn erbyn St Mirren. Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Alex Samuel i Ross County yn Dundee.
Dechrau ar y fainc a wnaeth Aaron Ramsey wrth i Rangers groesawu Hearts i Ibrox ddydd Sul. Daeth y Cymro i’r cae gyda chwarter awr yn weddill i wneud ei ymddangosiad cyntaf dros ei glwb newydd. Roedd y gêm wedi’i hen ennill erbyn hynny, gyda’i dîm bedair gôl i ddim ar y blaen. Ychwanegwyd un gôl arall yn y munudau olaf, pum gôl i ddim y sgôr terfynol. Eilydd hwyr a oedd Ben Woodburn i Hearts hefyd.
Ym Mhencampwriaeth yr Alban, ar y fainc yr oedd Owain Fôn Williams i Dunfermline yn Ayr, wedi colli ei le i’r Pwyliad ifanc, Jakub Stolarczyk, a ymunodd ar fenthyg o Gaerlŷr yr wythnos diwethaf.
Chwaraeodd Rabbi Matondo’r gêm gyfan wrth i Cercle Brugge gael pwynt oddi cartref yn erbyn Standard de Liege ym mhrif adran Gwlad Belg nos Sadwrn. Yn yr Almaen, gwylio o’r fainc a wnaeth James Lawrence brynhawn Sadwrn wrth i’w dîm, St. Pauli, gael gêm gyfartal ddwy gôl yr un yn erbyn Paderborn.
Lithrodd Venezia i safleoedd y cwymp yn Serie A gyda cholled o ddwy gôl i ddim yn erbyn Napoli ddydd Sul. Dechreuodd Ethan Ampadu’r gêm a chwarae 78 munud.
Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Gareth Bale ar gyfer gêm gwpan Real Madrid yn erbyn Bilbao ganol wythnos. Granada a oedd y gwrthwynebwyr yn La Liga nos Sul gyda Gaz yn dechrau ar y fainc eto.