Mae Taine Basham, blaenasgellwr tîm rygbi Cymru, yn disgwyl i’r garfan daro’n ôl yn eu hail gêm ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ar ôl colli yn erbyn Iwerddon yn Nulyn ar y penwythnos agoriadol.

Collodd tîm Wayne Pivac o 29-7 yn erbyn y Gwyddelod yn Nulyn ddydd Sadwrn (Chwefror 5), sef eu colled fwyaf yn y Chwe Gwlad ers iddyn nhw golli o 23 o bwyntiau yn Stadiwm Aviva wyth mlynedd yn ôl.

Mae’r Gwyddelod yn ddi-guro ers mis Chwefror y llynedd, ac fe ildiodd Cymru bedwar cais gan wynebu’r posibilrwydd tan y munudau olaf o fynd adref heb sgorio’r un pwynt, gyda’r eilydd o faswr Callum Sheedy yn trosi cais Basham.

Bydd Cymru’n falch o ddod adref i Stadiwm Principality yng Nghaerdydd i herio’r Albanwyr yr wythnos nesaf – gyda’r ymwelwyr yn waglaw ym mhrifddinas Cymru ers 2002.

Ond colli, a byddai pencampwriaeth Cymru ar ben i bob pwrpas, cyn iddyn nhw deithio i Twickenham i herio Lloegr bythefnos yn ddiweddarach.

Mae’r Albanwyr wedi ildio 251 o bwyntiau yn yr wyth gêm diwethaf yng Nghaerdydd, ond maen nhw wedi cael hwb ar y penwythnos cyntaf wrth ddal eu gafael ar Gwpan Calcutta ar ôl trechu Lloegr.

“Meddylfryd yw popeth i fi,” meddai Taine Basham.

“Does dim amheuaeth y byddwn ni’n dod â hynny [i’r gêm] yr wythnos nesaf.

“Byddwn ni’n edrych yn ôl ac yn sylweddoli’n gorfforol nad oedden ni wedi troi i fyny.

“Mae’n rhaid i ni droi i fyny yr wythnos nesaf, yn enwedig o flaen torf gartref.”

Achub ar gyfleoedd

Y blaenasgellwr 22 oed oedd un o’r ychydig chwaraewyr oedd wedi perfformio’n dda yn Nulyn, gan sgorio unig gais y Cymry.

Daeth y cais hwnnw bum munud cyn y chwiban olaf, ac roedd e ar frig yr ystadegau hefyd, gan gario’r bêl 93 metr yn ystod yr ornest, gwneud 22 tacl a chario’r bêl 15 o weithiau.

Roedd e ar dân yn yr hydref hefyd, ac fe fydd ganddo fe gyfle euraid yn erbyn yr Alban i brofio ei sgiliau wrth fynd ben-ben â Hamish Watson.

“Dyna dw i’n ei ddisgwyl gen i a fy nghyd-chwaraewyr,” meddai.

“Mae’n rhaid i fi daflu fy nghorff o gwmpas er lles y tîm, felly galla i fod yn hapus gyda hynny [yn erbyn Iwerddon].

“Bob tro gewch chi gyfle yn y crys hwn, chwaraewch eich gêm eich hun a rhowch eich stamp eich hun arni.”