Mae Steve Morison wedi dweud y bydd yn trafod dyfodol y capten Sean Morrison gyda bwrdd cyfarwyddwyr Clwb Pêl-droed Caerdydd, gyda’r amddiffynnwr allan ag anaf am naw mis.

Mae cytundeb Morrison, 31, yn dod i ben ar ddiwedd y tymor.

Cafodd capten yr Adar Gleision anaf difrifol i’w ben-glin yn ystod y fuddugoliaeth yn Barnsley yr wythnos ddiwethaf.

“Mae’n anaf naw mis a bydd yn rhaid i ni asesu pethau wrth i ni fynd ymlaen,” meddai’r rheolwr.

“Rwy’n siŵr y bydd sgwrs rhywbryd gyda’r bwrdd am yr hyn a wnawn oherwydd yn amlwg mae wedi bod yn was mawr i’r clwb pêl-droed.”

Mae Morrison wedi gwneud bron i 300 ymddangosiad ers ymuno â Chaerdydd o Reading yn 2014.

Cafodd ei enwi’n chwaraewr y flwyddyn wrth iddyn nhw ennill dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair yn 2017-18.