Mae’n debyg bod cymdeithasau pêl-droed y Deyrnas Unedig ac Iwerddon am ganolbwyntio ar eu cais i gynnal Ewro 2028 yn hytrach na Chwpan y Byd 2030.

Mae lle i gredu bod ganddyn nhw amheuon ynghylch eu gallu i gynnal y gystadleuaeth fyd-eang fydd yn dathlu ei chanmlwyddiant ymhen wyth mlynedd.

Byddai Ewro 2028 yn cyd-daro â Chwpan y Byd yn ôl cynlluniau i ddiwygio’r cystadlaethau rhyngwladol sydd gan FIFA ar hyn o bryd ac sy’n destun ymgynghoriad.

Mae gwrthwynebiad eisoes i gynnal Cwpan y Byd bob dwy flynedd ac yn ôl y cymdeithasau pêl-droed, dydy’r penderfyniad i ganolbwyntio ar yr Ewros ddim yn gysylltiedig â’r adroddiadau bod UEFA yn barod i gefnogi cais Sbaen a Phortiwgal i gynnal Cwpan y Byd 2030.

Fe fu rhai gwrthwynebwyr yn cyfeirio hefyd at fethiant Lloegr i ennill yr hawl i gynnal Cwpan y Byd yn 2006 a 2018, a’r diffyg tryloywder ynghylch penderfyniadau FIFA fel rhesymau pam na ddylid gwneud cais i gynnal y gystadleuaeth fyd-eang.

Ond Cyngres FIFA o 211 o aelodau fydd yn cael y gair olaf, ac nid pwyllgor gwaith llawer llai oedd yn wynebu cyhuddiadau o lygredd tros Gwpan y Byd 2018 a 2022.

Bydd Cwpan y Byd 2026 yn cael ei gynnal yn yr Unol Daleithiau, Canada a Mecsico yn dilyn penderfyniad y Gyngres, gyda manylion y bleidlais wedi’u cyhoeddi ar-lein.

Mae lle i gredu bod Twrci a Rwsia hefyd yn awyddus i gynnal Ewro 2028, a’r disgwyl yw y bydd 32 o wledydd yn cystadlu yn hytrach na’r 24 sydd ar hyn o bryd.

Mae’r ceisiadau i gynnal Ewro 2028 a 2032 yn cyd-redeg ochr yn ochr, ac mae’n rhaid gwneud cais erbyn Mawrth 23, gyda’r cynlluniau terfynol i’w cyflwyno erbyn Ebrill 12. Bydd cyhoeddiad ynghylch pwy fydd yn cynnal y cystadlaethau’n cael ei wneud fis Medi y flwyddyn nesaf.

Dydy penaethiaid cymdeithasau pêl-droed y Deyrnas Unedig ddim eto wedi cadarnhau pa gaeau fydd yn cael eu defnyddio fel rhan o’u cais, ac mae’n debyg y bydd hynny’n ddibynnol ar sawl gwlad fydd yn cael cystadlu.

Dydy hi ddim chwaith yn glir pa wledydd fyddai’n gymwys am le fel gwledydd sy’n cynnal y gystadleuaeth fel rhan o gais ar y cyd.

Yr ymateb yng Nghymru

Mae Noel Mooney, prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, yn dweud ei fod yn disgwyl i Stadiwm Principality fod yn ganolog i unrhyw gais ar y cyd.

“Rydym yn gwybod o’r astudiaeth ddichonolrwydd fod gennym ni siawns wych o ennill [y cais] hwn,” meddai.

“Rydym yn hyderus iawn wrth fynd i mewn i hwn mai hwn fydd y cais gorau o dipyn o beth sydd allan yno.”

Mewn datganiad, mae Stephen Williams, Llywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, wedi canmol effaith y Wal Goch ar y tîm cenedlaethol.

“Yma yng Nghymru, mae gan y Wal Goch berthynas arbennig â Phencampwriaeth Ewrop ac mae’r potensial i ni weld Cymru’n cymryd rhan fel gwlad sy’n cynnal Ewro 2028 UEFA yn un cyffrous,” meddai.

“Rwy’n eithriadol o falch fod Cymdeithas Bêl-droed Cymru’n cefnogi’r cais hwn ochr yn ochr â chymdeithasau pêl-droed Gogledd Iwerddon, yr Alban, Lloegr a Gweriniaeth Iwerddon.

“Does dim modd mesur yr effaith bositif y bydd hyn yn ei chael ar Gymru gyfan, ac mi fydd yn gadael gwaddol hirdymor.”