Mae cyfarfod o aelodau Clwb Criced Swydd Efrog i bleidleisio ar newidiadau i strwythur y bwrdd cyfarwyddwyr yn sgil yr helynt hiliaeth wedi cael ei ganslo, ar ôl iddi ddod i’r amlwg nad oedd y sir wedi dilyn gweithdrefnau cywir wrth alw’r cyfarfod.

Roedd disgwyl i’r cyfarfod gael ei gynnal heno (nos Fercher, Chwefror 2), ac roedd yn cael ei ystyried yn gam positif wrth adolygu llywodraethiant y sir yn dilyn yr honiadau gan y cyn-chwaraewr Azeem Rafiq yn erbyn y clwb.

Roedd disgwyl hefyd y byddai Bwrdd Criced Cymru a Lloegr yn gwneud penderfyniad ar ôl y cyfarfod ynghylch adfer statws cae Headingley yn Leeds, cartref y sir, fel cae sy’n cynnal gemau rhyngwladol.

Mewn datganiad, mae Clwb Criced Swydd Efrog yn dweud y byddan nhw’n mynd ati i bennu dyddiad newydd ar gyfer y cyfarfod arbennig “cyn gynted ag y bo’n ymarferol bosib, gobeithio cyn diwedd y mis hwn”.

Y cyfarfod

Roedd Clwb Criced Swydd Efrog am gynnig bod rheolau’r sir yn cael eu haddasu fel bod modd ethol wyth cyfarwyddwr anweithredol annibynnol nad ydyn nhw’n aelodau i’r bwrdd.

Byddai hynny’n gadael dau le i aelodau’r clwb ar y bwrdd.

Roedd gofyn hefyd i aelodau ystyried newid y rheolau fel bod cynrychiolydd o Fwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB) yn cael ymuno â phwyllgor enwebu aelodau’r bwrdd.

Cafodd Martin Darlow, is-gadeirydd yr ECB, ei holi gan bwyllgor seneddol yn San Steffan am bwysigrwydd cynnal gemau rhyngwladol yn Headingley.

Dydy’r ECB ddim wedi gwneud sylw ynghylch canslo’r cyfarfod eto, ond mae’r Arglwydd Kamlesh Patel, cadeirydd newydd y sir, wedi bod yn rhybuddio am y peryglon pe na bai’r clwb yn cael cynnal gemau rhyngwladol am gyfnod.

Dywed y byddai cenhedlaeth o blant yn colli’r cyfle i weld eu harwyr yn y cnawd, ac y byddai yna oblygiadau ariannol hefyd, gyda nifer o noddwyr oedd wedi tynnu’n ôl yn sgil yr helynt hiliaeth yn barod i ystyried dychwelyd pe bai gemau rhyngwladol yn rhan o unrhyw gytundeb.

 

Azeem Rafiq

Swydd Efrog “wedi gwneud digon” i gael criced rhyngwladol yn ôl, medd Azeem Rafiq

Arweiniodd honiadau’r cyn-chwaraewr o hiliaeth at ddiswyddo’r tîm hyfforddi ac ymadawiad y cadeirydd a’r prif weithredwr
Azeem Rafiq

Argymell atal arian cyhoeddus i griced oni bai bod yr awdurdodau’n mynd i’r afael â hiliaeth

Pwyllgor seneddol wedi cyhoeddi adroddiad yn dilyn ymchwiliad i helynt Azeem Rafiq, cyn-chwaraewr Clwb Criced Swydd Efrog