Mae Benjamin Mendy, sy’n chwarae i Manchester City, wedi bod gerbron llys ac mae Mason Greenwood, sy’n chwarae i Manchester United, wedi’i ryddhau ar fechnïaeth mewn dau ymchwiliad gwahanol gan yr heddlu i droseddau rhyw honedig.

Aeth Mendy, Ffrancwr 27 oed, gerbron Llys y Goron Caer, wedi’i gyhuddo o drosedd newydd o geisio treisio.

Mae e’n wynebu naw cyhuddiad i gyd, gan gynnwys saith achos o dreisio pedwar person gwahanol, un o ymosod yn rhywiol ac un o geisio treisio.

Mae disgwyl i’r achos ddechrau ar Orffennaf 25 a phara chwe wythnos.

Mae e wedi’i wahardd gan ei glwb am y tro yn sgil yr honiadau.

Bydd gwrandawiad pellach ar Fawrth 11.

Mae dyn arall, Louis Saha Matturie, 40, yn wynebu deg cyhuddiad o dreisio pum dynes a thri chyhuddiad o ymosod yn rhywiol.

Mae’r ddau ar fechnïaeth ar hyn o bryd.

Mason Greenwood

Mae Mason Greenwood, ymosodwr 20 oed Lloegr, ar fechnïaeth ar ôl cael ei holi ynghylch achos o geisio treisio ac o ymosod ar ddynes ifanc.

Cafodd ei arestio dros y penwythnos ar ôl i fideo a lluniau ymddangos ar y cyfryngau cymdeithasol.

Yn y ddalfa ddechrau’r wythnos, cafodd ei arestio eto ar amheuaeth o ymosod yn rhywiol ac o fygwth lladd.

Yn ôl Heddlu Manceinion, mae’r dyn wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth ond dydyn nhw ddim wedi ei enwi.

Mae e wedi’i wahardd gan ei glwb am gyfnod amhenodol.

Mae Greenwood wedi colli cytundeb gyda Nike, ac mae Electronic Arts sy’n creu gemau cyfrifiadurol FIFA wedi dileu’r chwaraewr oddi ar ddiweddariadau FIFA 22, ac mae Konami wedi gwneud yr un fath gyda PES 2021.