Mae Nathan Jones, y Cymro sy’n rheoli tîm pêl-droed Luton, wedi canu clodydd ei eilyddion Cameron Jerome a Harry Cornick ar ôl iddyn nhw gyfuno i sgorio’r gôl fuddugol yn Stadiwm Swansea.com neithiwr (nos Fawrth, Chwefror 1).

Mae’r fuddugoliaeth o 1-0 dros Abertawe yn golygu bod Luton bellach wedi ennill pum gêm allan o wyth yn eu gemau diweddaraf.

Maen nhw driphwynt islaw’r safleoedd ail gyfle yn y Bencampwriaeth erbyn hyn.

Daeth Jerome, cyn-chwaraewr Caerdydd, a Cornick i’r cae ar ôl 62 munud, gyda’r naill yn creu gôl y llall naw munud yn ddiweddarach.

“Mae’n wych cael Harry yn ôl, a bydd hynny’n gwneud byd o les iddo fe,” meddai Nathan Jones.

“Mae’n fuddugoliaeth enfawr.

“Mae Abertawe’n dîm anodd i chwarae yn eu herbyn nhw yn nhermau’r hyn maen nhw’n ei wneud. Maen nhw’n dominyddu’r meddiant ac yn gallu achosi problemau gwirioneddol i chi.

“Mae’n rhaid i chi fod yn glinigol iawn, a dyna beth oedden ni.

“Mae’n fuddugoliaeth ardderchog i ddod â mis gwych i ben.

“Roedd yr ymwybyddiaeth yn dactegol yn arbennig.

“Roedden ni’n gryf, yn ymosodol, yn ddisgybledig ac yn glinigol.

“Roedd rhai sy’n gallu newid gemau wedi dod ymlaen ac wedi ennill y gêm i ni, felly roedd hi’n gyfanwaith o fuddugoliaeth oddi cartref.

“Mae dod yma ac ennill o 1-0 yn arbennig, ac ro’n i wrth fy modd gyda’n perfformiad ni heno.”

‘Tri chyfle enfawr’

Mae’r Elyrch, fodd bynnag, wedi methu sgorio yn eu tair gêm diwethaf er eu bod nhw’n parhau i ddominyddu’r meddiant.

“Dw i’n credu mai ni oedd y tîm gorau,” meddai’r rheolwr Russell Martin.

“Roedd gyda ni dri chyfle enfawr a wnaethon ni ddim sgorio.

“Wnaethon nhw ddim achos fawr o niwed i ni.

“Maen nhw’n dda iawn yn gwneud yr hyn maen nhw’n ei wneud, a gallwch chi weld pam eu bod nhw’n gwneud cystal yn y gynghrair.

“Do’n i ddim wedi gweld llawer o broblemau gyda’r perfformiad yn gyffredinol.

“Ro’n i’n meddwl ein bod ni wedi dominyddu a phan wnaethon ni guro’r wasgfa, roedden ni’n edrych yn beryglus iawn.

“Mae’r bois yn rhoi popeth sydd ganddyn nhw iddi.

“Cawson ni lawer o’r bêl, ond rhaid i ni wneud mwy gyda hi.

“Yn anffodus, ar hyn o bryd, dydy’r traean olaf ddim yn iawn, dyw e ddim yn clicio.

“Rhaid i ni sgorio pan ydyn ni’n cael y gorau ohoni.

“Wnaethon ni ildio gôl mor sâl, ac roedd hynny’n siomedig.

“Allwch chi ddim ildio gôl o’r fath.”