Fe fydd Clwb Pêl-droed Caerdydd yn gofyn i gefnogwyr dalu £1 yn fwy am docynnau ar gyfer eu gemau oddi cartref er mwyn talu am ddifrod gan gefnogwyr i doiledau yn y gêm oddi cartref yn erbyn Bristol City yn Ashton Gate.

Roedd lluniau a fideo ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos difrod sylweddol i’r toiledau, ac roedd Caerdydd wedi gwahardd tri o gefnogwyr ar ôl y gêm.

Mae’r clwb wedi cynnig talu am waith trwsio, ac wedi trosglwyddo’r gost i bob cefnogwr drwy godi ffi bwcio ychwanegol ar gyfer tocynnau i gemau oddi cartref.

Dim ond ar gyfer tocynnau oedolion y bydd cost ychwanegol, ac mae plant a phensiynwyr wedi’u heithrio.

Bydd y gost ychwanegol yn dod i rym ar gyfer y gêm yn erbyn Millwall ar Chwefror 12.

Mae’r clwb wedi gofyn i’r cefnogwyr am wybodaeth ychwanegol am y digwyddiad ym Mryste ar Ionawr 22, gan ddweud eu bod nhw’n cydweithio â’r heddlu, ac maen nhw’n dweud eu bod nhw’n barod i gymryd camau pellach pe bai angen, gan gynnwys annog cefnogwyr sydd am achosi trafferth i gadw draw o gemau.

Mae’r digwyddiad yn Ashton Gate yn un o nifer yn ddiweddar ar draws y Gynghrair Bêl-droed.

Cafodd Ade Akinfenwa, cyn-chwaraewr Abertawe, ei sarhau’n hiliol yn ystod gêm MK Dons a Wycombe, a bu’n rhaid atal y gêm am gyfnod.

Cafodd tân ei daflu ar y cae yn ystod gêm Millwall a West Brom, ac roedd oedi hir yn y gêm rhwng Crewe a Rotherham ar ôl i wrthrych gael ei daflu at lumanwr.

Mae pennaeth Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu wedi galw am gyfarfod brys gyda’r awdurdodau pêl-droed i drafod y sefyllfa.