Aberystwyth fydd y clwb pêl-droed cyntaf i chwarae 1,000 o gemau yn Uwch Gynghrair Cymru pan fyddan nhw’n herio Hwlffordd am 8 o’r gloch heno (nos Fawrth, Chwefror 1).
Bydd mynediad am ddim ar gyfer y gêm ar Goedlen y Parc, a gynhaliodd y gêm gyntaf ym mis Awst 1992 – buddugoliaeth 3-2 i Aberystwyth yn erbyn Caersws.
Roedd Aberystwyth ymhlith yr 20 clwb oedd yn aelodau wnaeth greu Cynghrair Cymru ar ddechrau tymor 1992-93.
Dywed y Cadeirydd Donald Kane, sydd ei hun yn gyn-chwaraewr o Aberystwyth, fod cyrraedd 1,000 o gemau yn yr Uwch Gynghrair yn gamp “anhygoel”.
“Yn amlwg fe wnaeth Cynghrair Cymru fynd â phêl-droed yng Nghymru i lefel ryngwladol drwy gynnwys Cymru gyfan,” meddai wrth BBC Radio Wales.
“Wedyn ti’n sylweddoli bod 29 mlynedd wedi mynd heibio. Mae’n anhygoel.”
Canmol y cefnogwyr
Dywed Donald Kane fod cefnogwyr y clwb a chefnogaeth noddwyr lleol wedi bod yn amhrisiadwy dros y 30 mlynedd diwethaf.
“Mae’r cefnogwyr wedi bod yn hollol wych,” meddai.
“Mae wedi bod yn anodd, dydyn ni ddim wedi bod yn herio am y tri safle uchaf ac mae wedi bod yn dipyn o frwydr dros y pum mlynedd diwethaf.
“Ond maen nhw wedi glynu gyda ni.
“Maen nhw’n dal i gredu yn y clwb ac yn dal eisiau cefnogi.”
Aberystwyth a’r Drenewydd yw’r unig ddau glwb sydd wedi chwarae ym mhob tymor Uwch Gynghrair Cymru.
Bydd Y Drenewydd yn croesawu Met Caerdydd yn eu 1,000fed gêm ar Chwefror 19.