Mae wedi bod yn “sioc” gweld Aaron Ramsey yn ymuno â Chlwb Pêl-droed Rangers, meddai’r cyflwynydd a sylwebydd pêl-droed Dylan Ebenezer.

Mae’r Cymro wedi ymuno ag arweinwyr Uwch Gynghrair yr Alban ar fenthyg o Juventus tan ddiwedd y tymor ac ymateb cymysg sydd wedi dod o Gymru i’r trosglwyddiad.

Roedd Ramsey, 31, wedi bod mewn trafodaethau gyda’r clwb o Glasgow – sy’n herio Celtic ddydd Mercher (2 Chwefror) – ers rhai dyddiau.

Doedd o ddim wedi chwarae i Juventus ers mis Hydref.

“Rwy’n falch iawn o fod yn ymuno â chlwb fel Rangers,” meddai’r Cymro wrth wefan Rangers.

“Mae cymaint i edrych ymlaen ato rhwng nawr a mis Mai.

“Roedd gen i nifer o gynigion ar y bwrdd, ond doedd yr un ohonyn nhw’n cyfateb i faint y clwb yma, gyda phêl-droed Ewropeaidd a’r cyfle i chwarae o flaen 50,000 o gefnogwyr bob yn ail wythnos.”

“Sioc”

Beth yw ymateb Dylan Ebenezer i’r cwbl felly?

“Sioc, yn amlwg ei fod o’n mynd i Rangers ac i gynghrair yr Alban,” meddai Dylan Ebenezer wrth golwg360.

“Ond o leiaf y bydd e’n cael y cyfle i chwarae a phrofi ei ffitrwydd oherwydd pan roedd e yn yr Eidal doedd hi byth yn glir oes oedd e’n ffit, neu ddim yn cael ei ddewis ta be.

“Felly am wn i, dros yr wythnosau nesaf cawn ni weld os yw e’n gallu chwarae yn gyson.

“Yn y bôn, dw i jyst yn falch ei fod e wedi mynd i rywle lle bydd e’n cael chwarae yn gyson.”

Pam bod Ramsey wedi dewis ymuno â Rangers, yn hytrach na dychwelyd i Uwch Gynghrair Lloegr felly?

“Dw i ddim yn siŵr, bydd y bobl sinigol yn dweud ei fod e’n ddewis hawdd a bod y gynghrair yn mynd i fod yn fwy cyfforddus.

“Er, dw i ddim yn siŵr am hynny chwaith gan fod pêl-droed i fyny yn yr Alban yn eithaf cystadleuol ac yn sicr yn gorfforol.

“A beth bynnag yw eich barn chi am Rangers, maen nhw’n glwb mawr, yn glwb sydd â lot fawr o gefnogwyr yn ogystal â stadiwm ffantastig felly mae’n rhaid bod hynny wedi apelio.

“Mae e hefyd yn cael y cyfle i chwarae yn Ewrop… mae e’n ticio lot o focsys oni bai am… wel, daliadau gwleidyddol pobl – ond ella nad yw Ramsey yn poeni gymaint am hynny.”

‘Ramsey ffit yn hwb enfawr i Gymru’

Byddai cael Ramsey’n holliach a’r chwarae yn gyson yn hwb mawr i Gymru wrth i ddynion Rob Page baratoi ar gyfer gemau ail-gyfle Cwpan y Byd, medd Dylan Ebenezer.

“Yn bendant! Bydde fe’n hwb enfawr,” meddai.

“Dyw e byth wedi bod yn broblem enfawr pan mae e wedi dod i mewn i garfan Cymru heb chwarae yn gyson – pan mae e ar ei orau mae e ar ryw lefel arall.

“Ond na, os yw popeth yn mynd yn iawn yna grêt, alla i ddim gweld beth yw’r broblem.

“Dim ond chwe wythnos sydd tan y gemau ail-gyfle felly mae’r amseru’n grêt os caiff e rediad da o gemau, ond wrth gwrs fe allai hi fynd y ffordd arall.”

Kieffer Moore

Y trosglwyddiadau mawr i mewn ac allan o Gymru wrth i’r ffenest gau’n glep

Aaron Ramsey, Kieffer Moore a Neco Williams i gyd wedi symud, a digon o draffig i mewn ac allan o Gymru