Roedd digon o symud i mewn ac allan o Gymru ar ddiwrnod olaf ffenest drosglwyddo Ionawr ddoe (dydd Llun, Ionawr 31), gyda nifer o chwaraewyr amlyca’r tîm cenedlaethol yn gadael am heriau newydd.

Mae cyfnod yr ymosodwr Kieffer Moore yng nghrys Caerdydd ar ben, wrth iddo fe ymuno â Bournemouth am ffi sydd heb ei gadarnhau, ac fe fydd e’n mynd yno gyda Freddie Woodman, cyn-golwr Abertawe sydd wedi symud o Newcastle.

Sgoriodd Moore 20 o goliau yn y Bencampwriaeth i’r Adar Gleision y tymor diwethaf, a phum gôl y tymor hwn gan greu pedair mewn 24 o gemau ar draws yr holl gystadlaethau.

Mae e wedi llofnodi cytundeb tair blynedd a hanner yn Stadiwm Vitality.

Mae’r cefnwr Neco Williams ar ei ffordd allan o Anfield ar fenthyg, ac yn llygadu lle yng ngharfan Cymru ar gyfer Cwpan y Byd pe baen nhw’n cymhwyso, gan gredu mai yn Fulham mae ei gyfle gorau i wneud hynny.

Bydd e yn Craven Cottage ar fenthyg am weddill y tymor, er bod Bournemouth hefyd wedi dangos diddordeb, a bydd e’n gobeithio chwarae tipyn mwy na’r wyth gêm gafodd e yn Lerpwl yn hanner cynta’r tymor hwn.

O ran chwaraewyr amlycaf Cymru, does dim dwywaith mai Aaron Ramsey oedd yn hawlio’r sylw mwyaf, wrth symud ar fenthyg o Juventus i Rangers.

Roedd y tîm Eidalaidd eisoes wedi rhoi gwybod i’r blaenwr na fyddai’n rhan o’u cynlluniau nhw yn Ewrop, ac fe ddenodd e gryn sylw o gyfeiriad clybiau Uwch Gynghrair Lloegr cyn mynd am yr Alban.

Mae gan y chwaraewr 31 oed gytundeb yn yr Eidal tan haf 2023.

Hefyd yn yr Alban, mae Tom Sang wedi symud ar fenthyg o Gaerdydd i St. Johnstone, ac mae e’n gallu chwarae yn y cefn neu’r canol cae.

Mae Matt Smith, chwaraewr canol cae Manchester City, wedi symud i MK Dons.

Abertawe

Mae’r Elyrch wedi denu’r asgellwr cefn 20 oed Nathanael Ogbeta o Amwythig am ffi sydd heb ei ddatgelu, ar ôl i Jake Bidwell ymuno â Coventry.

Dechreuodd ei yrfa’n rhan o Academi Manchester City, ac mae e wedi chwarae 58 o weithiau i Amwythig dros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae e wedi llofnodi cytundeb dwy flynedd a hanner yng Nghymru.

Ond y newyddion da i gefnogwyr Abertawe, am y tro o leiaf, yw fod Jamie Paterson yn aros – ond am ba hyd sy’n gwestiwn arall, ac yntau’n anhapus gyda’r estyniad gafodd e i’w gytundeb yn ddiweddar.

Roedd peth diddordeb ynddo fe ar yr unfed awr ar ddeg, wrth i’r Elyrch wrthod sawl cynnig gan QPR am yr asgellwr ymosodol.

Mae’r chwaraewr canol cae Liam Walsh wedi ymuno â Hull ar fenthyg tan ddiwedd y tymor.

Caerdydd

Mae Caerdydd wedi denu’r ymosodwr Uche Ikpeazu o Middlesbrough ar fenthyg tan ddiwedd y tymor.

Roedd Middlesbrough yn gofyn am ffi am drosglwyddiad parhaol, ond fe gytunon nhw yn y pen draw y byddai trosglwyddiad ar fenthyg yn gwneud y tro.

Mae e wedi sgorio tair gôl mewn 21 o gemau y tymor hwn ar ôl cael cytundeb tair blynedd haf diwethaf.

Mae Ciaron Brown, yr amddiffynnwr 24 oed, wedi ymuno â Rhydychen ar fenthyg tan ddiwedd y tymor.

Wrecsam

Mae Wrecsam wedi denu Tom O’Connor, chwaraewr canol cae 22 oed Burton Albion, am ffi sydd heb ei ddatgelu, ac mae e wedi llofnodi cytundeb tan 2025.

Dechreuodd ei yrfa gyda Southampton cyn mynd yn ei flaen i gynrychioli Iwerddon dan 19 a 21.