Mae cefnogwyr Everton wedi croesawu penodiad Frank Lampard yn rheolwr newydd y clwb.

Mae’n olynu Rafa Benitez, a gafodd ei ddiswyddo wrth i’r tîm lithro i waelodion Uwch Gynghrair Lloegr ar ôl hanner cyntaf siomedig i’r tymor.

Maen nhw wedi colli deg allan o’u 13 gêm diwethaf, ac mae Lampard yn cydnabod mai aros yn yr Uwch Gynghrair fydd y flaenoriaeth ar gyfer y tymor nesaf.

O dan Benitez, roedd Everton wedi dod o fewn pedwar pwynt i safleoedd y gwymp.

“Y peth pwysicaf yw canolbwyntio ar y tymor byr,” meddai Lampard ar ôl llofnodi cytundeb dwy flynedd a hanner.

Mae’r cefnogwyr wedi bod yn anfodlon yn ddiweddar yn sgil agwedd y perchennog Farhad Moshiri tuag atyn nhw, gan fynegi eu siom eu bod nhw wedi cael eu gwthio i’r cyrion a’u hynysu ar ôl i’r clwb benodi Rafa Benitez, cyn-reolwr eu gelynion pennaf Lerpwl.

Yn ymuno â Lampard fel hyfforddwr y tîm cyntaf mae Paul Clement, cyn-reolwr Abertawe.

Ymateb y cefnogwyr

“Croeso Frank!” meddai tudalen Twitter @CymraegEverton.

“O’r diwedd cawn ni symud mlaen nawr a gobeithio am chydig o fusnes heddiw!

“Er fod elfen o risg, dwi’n teimlo bydd pawb yn uno tu ôl i Lampard.

“Chwaraewr o fri, roedd wrth ei fodd yn chwarae yn erbyn Everton!

“Bydd rhai ifanc yn teimlo bydd cyfle da gyda nhw nawr! EFC.”

Mewn ail neges, mae’r cefnogwyr yn cyfeirio at y cyfnod anodd a fu y tymor hwn: