Mae adroddiadau y gallai Aaron Ramsey ymuno â Chlwb Pêl-droed Rangers yn Glasgow.

Ar ddiwrnod ola’r ffenest drosglwyddo bresennol, y gred yw fod y tîm Eidalaidd yn fodlon derbyn cynnig am y Cymro Cymraeg, gyda’i gytundeb yn dod i ben yn haf 2023.

Roedd adroddiadau cyn heddiw (dydd Llun, Ionawr 31) fod gan Newcastle, Burnley a Wolves ddiddordeb yn y chwaraewr 31 oed.

Mae’r wefan chwaraeon Eidalaidd, Il Bianconero, eisoes wedi adrodd y gallai Max Allegri, rheolwr Juventus, gadw Ramsey allan o’r garfan am weddill y tymor gan nad yw’n rhan o’i gynlluniau.

Roedden nhw hefyd yn barod i dynnu’r Cymro oddi ar eu rhestr o chwaraewyr sy’n gymwys i chwarae yng Nghynghrair y Pencampwyr, yn ôl adroddiadau.

Adroddiadau y gallai Aaron Ramsey gael ei alltudio’n llwyr o garfan Juventus

Ymunodd Ramsey â Juventus ar drosglwyddiad am ddim ym mis Gorffennaf 2019 ar ôl treulio 11 mlynedd yn Arsenal