Mae disgwyl i Kieffer Moore, ymosodwr tîm pêl-droed Cymru a Chaerdydd, ymuno â Bournemouth heddiw (dydd Llun, Ionawr 31).
Doedd e ddim yng ngharfan yr Adar Gleision ar gyfer y fuddugoliaeth o 2-1 dros Nottingham Forest dros y penwythnos, a dydy e ddim wedi chwarae yn y pedair gêm diwethaf.
Rhagfyr 30 oedd y tro diwethaf iddo gael ei weld yng nghrys Caerdydd, ond mae’r rheolwr Steve Morison wedi bod yn dweud mai anaf i’w ffêr yw’r rheswm am ei absenoldeb yn ddiweddar.
Mae’r Adar Gleision wedi denu dau chwaraewr ymosodol eisoes dros y dyddiau diwethaf, sef Alfie Doughty a Jordan Hugill, ac fe sgoriodd Doughty yn ei gêm gyntaf yn erbyn Nottingham Forest.
Mae disgwyl i Bournemouth dalu oddeutu £3.5m am Moore, a’r gred yw y bydd e’n cael prawf meddygol fore heddiw cyn llofnodi cytundeb gyda’r tîm sy’n drydydd yn y Bencampwriaeth.