Roedd siom i’r Cymro Cymraeg Jonny Clayton yn y Meistri ym Milton Keynes, wrth iddo fe golli o 11-6 yn erbyn Dave Chisnall wrth geisio amddiffyn ei deitl.

Roedden nhw’n cystadlu am le yn y rownd derfynol yn erbyn Joe Cullen neu Jose de Sousa.

Mae Chisnall wedi cyrraedd y rownd derfynol chwe gwaith, ac mae e drwodd eleni gyda chyfartaledd o 97.5 a phum sgôr o 180, gan lwyddo gyda hanner ei ddartiau at ddyblau.

Roedd gan Clayton fantais o 2-0 ar ôl torri tafliad Chisnall yn gynnar yn yr ornest, ond taflodd Chisnall 101 i unioni’r sgôr a chipio’r gêm nesaf i fynd ar y blaen.

Aeth e ar y blaen o 4-3 cyn i Clayton unioni’r sgôr unwaith eto, 5-5.

Taflodd Chisnall 117 i fynd ar y blaen o 7-5, a 72 i ymestyn ei fantais ymhellach i 8-5.

Roedd e ar y blaen o 9-5 ar ôl torri tafliad Clayton, ac fe enillodd ei bumed gêm o’r bron i fynd o fewn un gêm i’r fuddugoliaeth.

Methodd Chisnall â thri dart i gipio’r ornest wrth i Clayton dorri’r tafliad i’w gwneud hi’n 10-6, ond cwblhaodd y Sais y gêm dyngedfennol gyda 12 dart a dwbwl 20 i selio’r fuddugoliaeth.

Jonny Clayton a Gerwyn Price yn herio’i gilydd yn rownd wyth ola’r Meistri

Mae Clayton, y Cymro Cymraeg o Bontyberem, yn amddiffyn ei deitl ym Milton Keynes