Fe fydd Jonny Clayton a Gerwyn Price yn herio’i gilydd heddiw (dydd Sul, Ionawr 30) yn rownd wyth olaf Meistri’r Dartiau ym Milton Keynes.

Fe wnaeth Clayton, y Cymro Cymraeg o Bontyberem, guro Dimitri van den Bergh o 10-9 yn ei gêm agoriadol, tra bod Price o Markham yn sir Caerffili wedi trechu Ryan Searle o 10-8.

Bu’n rhaid i Clayton frwydro’n galed, ac fe aeth e ar y blaen o 3-2 erbyn yr egwyl gyda thafliad o 101, cyn i’w wrthwynebydd ei gwneud hi’n 3-3 gyda thafliad o 68.

Cael a chael oedd hi wrth iddyn nhw fynd i mewn i’r ail egwyl yn gyfartal 5-5, ond roedd y Cymro ar dân wedyn gyda thafliad o 104 gan ymestyn ei fantais i 7-5.

Dan bwysau gyda’r sgôr yn 7-6, taflodd Clayton 111 i ymestyn ei fantais unwaith eto, cyn i van den Bergh ymateb gyda phedwerydd 180 yn y gêm ganlynol er iddo fe golli honno i roi Clayton o fewn un gêm i’r fuddugoliaeth.

Collodd Clayton gyfle i ennill yr ornest gyda thafliad o 138, a gyda’r sgôr yn 9-8, roedd ganddo fe chwe dart i gipio’r fuddugoliaeth ond unionodd van den Bergh y sgôr i orfodi un gêm fawr olaf.

Er i van den Bergh sgorio chweched 180, llwyddodd Clayton ag ymgais at ddwbwl 12 i ennill yr ornest.

Fe wnaeth Price drechu Ryan Searle gyda chyfartaledd o 95.4 a thri sgôr o 180 a llwyddo gyda 45.5% o dafliadau at ddyblau, yn ogystal â sgôr gorau o 164 i gipio gêm a blaenoriaeth o 4-1 erbyn yr egwyl.

Tarodd Searle yn ôl rywfaint erbyn yr ail egwyl i’w gwneud hi’n 6-4 i’r Cymro cyn iddo ymestyn ei fantais unwaith eto i 8-6.

Methodd Searle gyfle at ddwbwl 20 i daflu sgôr o 140 i ennill gêm ond fe enillodd e’r gêm i’w gwneud hi’n 8-7.

Cael a chael oedd hi wedyn, gyda’r naill a’r llall yn ennill gêm yr un i’w gwneud hi’n 9-8 cyn i Price daflu dwbwl wyth i gyrraedd yr wyth olaf.