Roedd hoe i’r rheiny sydd yn chwarae yn Uwch Gynghrair Lloegr y penwythnos hwn wrth i’r gystadleuaeth honno gymryd toriad byr. Cyfle felly i ambell Gymro yn y cynghreiriau eraill greu argraff ar Rob Page.

 

*

 

Y Bencampwriaeth

Parhau i ddirywio a wnaeth tymor Abertawe ddydd Sadwrn wrth iddynt golli o ddwy gôl i ddim yn erbyn Hull. Chwaraeodd Ben Cabango i’r Elyrch ond nid oedd Matthew Smith yng ngharfan Hull.

Cafodd Caerdydd ganlyniad dipyn gwell ddydd Sul wrth iddynt groesawu Nottingham Forest i Stadiwm y Ddinas. Roedd yr Adar Gleision yn llawn haeddu eu buddugoliaeth o ddwy gôl i un gydag Isaak Davies yn dod oddi ar y fainc i rwydo’r ail hanner ffordd trwy’r ail hanner. Ni wnaeth yr un Cymro ddechrau’r gêm serch hynny ond fe wnaeth Will Vaulks, fel Davies, ymddangos fel eilydd. Nid oedd Kieffer Moore, Mark Harris na Rubin Colwill yn y garfan.

Roedd Brennan Johnson yn nhîm Forest fel ei arfer ond cafodd brynhawn diffrwyth iawn o’i gymharu â’r gêm ganol wythnos yn erbyn Barnsley pan sgoriodd un o dair gôl ei dîm a chreu un o’r lleill.

Gwelwyd golygfa brin yn Huddersfield nos Wener; Stoke yn dechrau gêm heb Gymro yn y tîm! Ar y fainc y dechreuodd Joe Allen ac nid oedd Adam Davies, James Chester na Morgan Fox yn y garfan. Dechreuodd Sorba Thomas i’r tîm cartref ac fe aethant ar y blaen yn yr hanner cyntaf. Ond gydag Allen ymlaen fel eilydd hanner amser, yn ôl y daeth Stoke i achub pwynt.

Arhosodd Fulham ar frig y tabl er gwaethaf gêm gyfartal gôl yr un yn erbyn Blackpool ddydd Sadwrn. Chwaraeodd Harry Wilson y gêm gyfan i Fulham ond nid oedd Chris Maxwell yng ngharfan y gwrthwynebwyr.

Dychwelodd Tom Lockyer i dîm Luton yr wythnos hon yn dilyn cyfnod gydag anaf. Sgoriodd mewn buddugoliaeth ganol wythnos yn erbyn Bristol City ac roedd yn rhan o amddiffyn a gadwodd lechen lân mewn gêm gyfartal ddi sgôr yn erbyn Blackburn ddydd Sadwrn.

Tom Lockyer

Chwaraeodd Neil Taylor y gêm gyfan wrth i Middlesbrough godi i’r safleoedd ail gyfle gyda buddugoliaeth o gôl i ddim yn erbyn Coventry.

Cefnwr chwith arall sydd yn mwynhau rhediad da yn ei dîm yw Rhys Norrington-Davies gyda Sheffield United. Dechreuodd eto wrth iddynt drechu Peterborough o ddwy gôl i ddim nos Sadwrn. Ar y fainc yr oedd Dave Cornell i’r gwrthwynebwyr.

Dechreuodd Andrew Hughes a daeth Ched Evans oddi ar y fainc wrth i Preston gael gêm gyfartal ddwy gôl yr un yn erbyn Bristol City. Nid oedd Andy King yn nhîm y gwrthwynebwyr oherwydd anaf.

Roedd buddugoliaeth dda i QPR yn erbyn Reading ond roeddynt wedi sgorio pob un o’u pedair gôl cyn i George Thomas ddod i’r cae gyda 25 munud o’r gêm i fynd.

Parhau y mae trafferthion Derby oddi ar y cae ond maent yn gwneud yn reit dda arno ac fe gawsant bwynt dramatig arall dydd Sul diolch i ddwy gôl hwyr yn erbyn Birmingham. Chwaraeodd Tom Lawrence y gêm gyfan gan greu’r gyntaf o’r goliau hwyr dri munud o ddiwedd y naw deg. Eilydd hwyr a oedd y bachgen ifanc, Jordan James, i Birmingham yn dilyn rhediad hir o ddechrau gemau.

 

*

 

Cynghreiriau is

Roedd buddugoliaeth anferth i Bolton yn yr Adran Gyntaf, yn trechu Sunderland o chwe gôl i ddim. Chwaraeodd Gethin Jones, Declan John a Jordan Williams y gêm gyfan, gyda gôl brin i John yn cwblhau’r sgorio yn y munudau olaf.

Nid honno oedd yr unig fuddugoliaeth swmpus wrth i Rydychen roi cweir o saith gôl i ddwy i Gillingham. Billy Bodin a agorodd y sgorio yn yr wythfed munud a chwaraeodd y Cymro ei ran mewn un neu ddwy o’r lleill hefyd.

Nid yw’r tymor hwn wedi bod yn un mor llewyrchus â’r tymor diwethaf i Luke Jephcott hyd yma ond mae pethau’n dechrau gwella i flaenwr Plymouth. Ar ôl sgorio un o dair ei dîm mewn gêm gyfartal yn erbyn Fleetwood ganol wythnos, sgoriodd y Cymro eto wrth iddynt guro Doncaster o dair gôl i un ddydd Sadwrn, ei drydedd gôl mewn tair gêm. Chwaraeodd James Wilson a Ryan Broom hefyd.

Un arall a sgoriodd yn y gêm ganol wythnos honno rhwng Plymouth a Fleetwood a oedd blaenwr y Cod Army, Ellis Harrison. Dechreuodd eto yn erbyn Caergrawnt ar y penwythnos ond nid oedd gôl iddo yn y gêm gyfartal gôl yr un.

Cymro arall ymysg y goliau ganol wythnos a oedd Wes Burns, yn sgorio dwy o bedair Ipswich mewn buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Wimbledon. Colli o gôl i ddim yn erbyn Sheffield Wednesday a wnaeth ei dîm ddydd Sadwrn serch hynny. Nid oedd Lee Evans yn y garfan.

Llithrodd Wigan o frig y tabl gyda gêm gyfartal ddi sgôr yn erbyn Cheltenham. Dechreuodd Gwion Edwards i’r Lactics a chwarae 75 munud. Roedd llechen lân i Owen Evans yn y gôl i’r gwrthwynebwyr ond roedd hi’n gêm i’w anghofio i Ben Williams, yn derbyn cerdyn coch hwyr ar ei ymddangosiad cyntaf i’w glwb newydd.

Collodd Wycombe dir ar y ceffylau blaen gyda cholled o gôl i ddim yn erbyn MK Dons. Dechreuodd Joe Jacobson y gêm cyn cael ei eilyddio am Sam Vokes ar hanner amser.

Colli a fu hanes Dave Richards, Billy Sass-Davies a Tom Lowery gyda Crewe yn erbyn Rotherham ac felly hefyd Regan Poole a Liam Cullen gyda Lincoln yn erbyn Burton.

Nid yw Charlton a Portsmouth yn chwarae tan nos Lun.

Yn yr Ail Adran fe wynebodd Jonny Williams ac Emyr Huws ei gilydd wrth i Swindon ymweld â Colchester. A Huws a oedd arwr y tîm cartref, yn sgorio yn yr ail funud o amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm i achub pwynt i naw dyn Colchester.

Colli o gôl i ddim a fu hanes Tom King a Liam Shephard gyda Salford yn Northampton.

 

*

 

Yr Alban a thu hwnt

Nid oedd gêm i Ryan Hedges a Marley Watkins ddydd Sadwrn, gyda gêm gartref Aberdeen yn erbyn St Johnstone yn un o ddwy i gael eu gohirio oherwydd y tywydd yn Uwch Gynghrair yr Alban.

Chwaraeodd Ben Woodburn hanner awr fel eilydd wrth i Hearts guro Motherwell o ddwy gôl i ddim. Colli a fu hanes Dylan Levitt gyda Dundee United, oddi cartref yn erbyn Celtic, un i ddim y sgôr.

Livingston a aeth â hi mewn gêm gyffrous oddi cartref yn erbyn Hibs. Dechreuodd Christian Doidge y gêm i’r tîm cartref ac roedd Morgan Boyes yn eilydd hwyr i’r ymwelwyr, tair gôl i ddwy y sgôr terfynol.

Mae Dunfermline allan o safleoedd y gwymp ym Mhencampwriaeth yr Alban diolch i lechen lân Owain Fôn Williams a buddugoliaeth o ddwy gôl i ddim yn erbyn Queen of the South.

Yng Ngwald Belg, Rabbi Matondo a sgoriodd gôl gyntaf Cercle Brugge mewn buddugoliaeth ganol wythnos yn erbyn Anderlecht. Dechreuodd y Cymro eto yn erbyn Oostende nos Sadwrn ond colli o gôl i ddim a fu hanes ei dîm ar yr achlysur hwnnw.

Roedd hoe i Gareth Bale, Ethan Ampadu a James Lawrence y penwythnos hwn gyda’r rhan fwyaf o gynghreiriau Ewrop yn cymryd toriad byr. Mae Aaron Ramsey wedi cael hoe hir iawn ond er gwaethaf yr holl sïon, ymddengys mai aros gydag Juventus y bydd y Cymro wedi i’r ffenestr drosglwyddo gau.