Mae Cennydd Davies yn dweud bod sefyllfa’r gêm ranbarthol yng Nghymru “wedi cyrraedd y dibyn”.

Daw sylwadau sylwebydd Y Clwb Rygbi wrth iddo ymateb i bryderon nifer o gyfarwyddwyr rygbi a phrif hyfforddwyr pedwar rhanbarth Cymru, sydd wedi cael tymor digon siomedig hyd yn hyn.

Mae Dean Ryan, Cyfarwyddwr Rygbi’r Dreigiau, yn galw am strategaeth i fynd i’r afael â gwendidau’r gêm ranbarthol gan dynnu’r holl ranbarthau ynghyd yn hytrach na’u bod nhw’n ymateb fel rhanbarthau i’w heriau unigol eu hunain.

Ac mae Dai Young, Cyfarwyddwr Rygbi rhanbarth Rygbi Caerdydd, yn dweud bod llwyddiant Cymru dros y blynyddoedd diwetha’n “papuro dros y craciau” yn y gêm ar lefel ddomestig.

Mae e yn ei ail gyfnod gyda rhanbarth y brifddinas, ac fe enillon nhw’r Gwpan Her yn ystod ei gyfnod cyntaf yn 2010.

Byddan nhw yn 16 olaf y gystadleuaeth ym mis Ebrill, ond dim ond y gystadleuaeth ail haen yw hon, ar ôl iddyn nhw gael eu heffeithio’n ddifrifol gan Covid-19 yn ystod eu hymgyrch yng Nghwpan y Pencampwyr, gyda’r rhanbarth heb 32 o chwaraewyr ar gyfer y gemau yn erbyn Toulouse a’r Harlequins fis diwethaf wrth iddyn nhw fynd i gwarantîn ar ôl dychwelyd o Dde Affrica, gyda deg arall allan oherwydd anafiadau a gwaharddiadau.

Bu’n rhaid iddyn nhw droi wedyn at chwaraewyr yr Academi, a cholli’r ddwy gêm dan sylw.

Cafodd y rhanbarthau dymor siomedig yn Ewrop yn gyffredinol y tymor hwn, gyda’r Scarlets a’r Gweilch ar waelod eu grwpiau Ewropeaidd yng Nghwpan y Pencampwyr, a’r Gweilch heb yr un pwynt yn y twrnament ar ôl colli tair gêm. Ac roedd y Dreigiau ar waelod eu grŵp yn y Gwpan Her.

Y gêm ranbarthol yn methu

“Yn ddiddorol, yn y gynhadledd yn y lansiad swyddogol, fe ofynnwyd y cwestiwn i Wayne Pivac a dyma’r hyfforddwr yn ymateb drwy ddweud nad yw hi ddim yn ddelfrydol o bell ffordd, ond dyw hyn ddim yn rywbeth newydd,” meddai sylwebydd BBC Cymru wrth golwg360.

“Hynny yw, mae Cymru wedi gor-berfformio, o bosib, yn y gorffennol ar y lefel ryngwladol, a hynny er gwaetha’r ffaeleddau ar y lefel ranbarthol.

“Ry’n ni i gyd wedi ymfalchïo yn llwyddiant Cymru dros, beth, pymtheg mlynedd, ac mae hyn wedi bod yn Oes Aur i Gymru.

“Mae’n rhaid bod yn onest. Pedair Camp Lawn, pencampwriaethau, wedi cyrraedd rownd gyn-derfynol Cwpan y Byd ddwywaith. Dych chi ddim yn gallu dadlau â hynny.

“Ond mae’r llwyddiant hynny, dyw e ddim yn barhaol a ’mhryder i yw, pan fydd y llwyddiant yna’n dilfannu ar y lefel genedlaethol, beth fydd yn sail i’r tîm ryngwladol neu beth fydd o dan yr arwyneb?

“Mae’n rhaid cwestiynu hynny. Dw i’n credu bod y sefyllfa wedi cyrraedd y dibyn nawr, ac mae angen atebion, mae angen adolygiad, dw i’n cytuno gyda Dean Ryan, oherwydd dydy’r sefyllfa yma ddim yn gallu parhau.”

‘Wedi datblygu dyfnder’

Mae Toby Booth, prif hyfforddwr y Gweilch, yn dadlau bod angen mwy o arian ar y rhanbarthau er mwyn datblygu, a bod anafiadau hefyd yn dal y rhanbarthau yn ôl gan nad oes digon o ddyfnder ymhlith eu carfannau.

Dim ond unwaith mae un o ranbarthau Cymru wedi cyrraedd rowndiau olaf Ewrop ers 2011-12, yn dilyn llwyddiant y Scarlets wrth gyrraedd y rownd gyn-derfynol yn 2018.

Daw hyn er bod y tîm cenedlaethol wedi ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad y llynedd a phedair Camp Lawn yn y ddwy flynedd ar bymtheg ddiwethaf.

Ac roedd Dean Ryan yn dweud yr wythnos hon na ddylai llwyddiant Cymru fod ar draul y rhanbarthau, ond mae’n cydnabod fod angen y naill ar y llall.

Wrth ymateb i sylwadau Booth am ddiffyg dyfnder, mae Cennydd Davies yn “canmol Wayne Pivac”.

“Mae e wedi datblygu dyfnder,” meddai.

“Dw i’n credu welon ni hynny yn yr ymgyrch y llynedd – welon ni chwaraewyr fel Jim Botham, a Taine Basham yn creu argraff yn yr hydref.

“Mae Jac Morgan nawr yn y garfan ynghyd â Dewi Lake, felly mae e yn ceisio datblygu dyfnder, ond y cwestiwn yw faint o gyfleoedd mae’r chwaraewyr hynny’n cael ar y lefel ranbarthol.

“A ydy’r gêm ranbarthol yn eu paratoi nhw ar gyfer y gêm ryngwladol? Dw i ddim yn siŵr. Hynny yw, roedd Warren Gatland yn aml, byth yn rhoi sail i’w ddewisiadau fe ar yr hyn oedd yn digwydd yn y gemau yng nghynghrair y PRO14 fel yr oedd hi. Roedd e yn rhoi sail ar yr hyn oedd yn digwydd yn y sesiynau ymarfer.

“Mae Wayne Pivac wedi ceisio datblygu dyfnder, ond dw i’n amau bod e wedi ceisio gwneud hynny gyda’i law y tu ôl i’w gefn.

“Ond mae angen gwneud hynny fwyfwy nawr cyn Cwpan y Byd oherwydd mae rhai o’r chwaraewyr, os ydych chi’n edrych ar y garfan, maen nhw yn dechrau mynd ymlaen mewn oedran felly bydd angen gwneud hynny dros y flwyddyn a hanner nesaf.”