Bydd tîm pêl-droed merched Cymru yn herio Ffrainc ar Barc y Scarlets ar Ebrill 8 mewn gêm hanfodol yn eu hymgyrch i gymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd.
Ar hyn o bryd, mae Cymru yn ail yng Ngrŵp I, y tu ôl i Ffrainc, sydd â 18 pwynt o’u chwe gêm, tra bod Cymru ar 13 pwynt.
Mae Slofenia yn y trydydd safle, ddau bwynt y tu ôl i Gymru ar 11.
Dyma fydd y trydydd tro i dîm Gemma Grainger chwarae ym Mharc y Scarlets yn yr ymgyrch hon.
Bydd Cymru hefyd yn cymryd rhan yng Nghwpan Pinatar yn Sbaen fis Chwefror i baratoi ar gyfer eu gemau rhagbrofol yng Nghwpan y Byd sy’n weddill.
Byddan nhw’n wynebu’r Alban ar Chwefror 16, cyn herio Gwlad Belg neu Slofacia ar Chwefror 19.
Bydd eu trydedd gêm – yn erbyn Rwsia, Gwlad Pwyl, Gweriniaeth Iwerddon neu Hwngari – ar Chwefror 22.
Mae Cymru’n gobeithio gorffen yn ail yng ngrŵp rhagbrofol Cwpan y Byd, a fyddai’n sicrhau lle iddyn nhw yn y gemau ail-gyfle.