Mae Nottingham Forest wedi gwrthod cynnig o tua £18m, gan Brentford am ymosodwr Cymru, Brennan Johnson, yn ôl adroddiadau lleol.

Mae’r gŵr 20 oed wedi chwarae 33 o gemau y tymor hwn, gan sgorio saith gôl – gan gynnwys dwy yn ei ddwy gêm ddiwethaf yn y Bencampwriaeth.

Mae wedi sefydlu ei hun yn nhîm cyntaf Nottingham Forest y tymor hwn yn dilyn cyfnod ar fenthyg gyda Lincoln City yn 2020-21.

Ar hyn o bryd, mae Nottingham Forest yn seithfed yn y Bencampwriaeth, tra bod Brentford yn yr 14eg safle yn yr Uwch Gynghrair.