Mae Jonny Clayton a Gerwyn Price, y ddau chwaraewr dartiau o Gymru, wedi cael eu gwobrwyo gan y PDC ar ôl blwyddyn i’w chofio.
Cawson nhw eu curo i’r brif wobr, Chwaraewr PDC y Flwyddyn, gan bencampwr y byd, y Chwarae Gornest a Phencampwriaeth y Chwaraewyr, Peter Wright, ar ôl cyrraedd y rhestr fer ynghyd â’r Sais James Wade.
Enillodd Clayton, y Cymro Cymraeg o Bontyberem bedwar tlws mewn cystadlaethau teledu yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys yr Uwch Gynghrair ar y cynnig cyntaf, ac fe gafodd ei enwi’n Chwaraewr y Flwyddyn gan ei gyd-chwaraewyr, ac eto gan y cefnogwyr wrth iddo gasglu dwy wobr ar y noson.
Cafodd e dros hanner y pleidleisiau gan chwaraewyr sydd â Cherdyn Taith y PDC, a mwy na 25% o’r bleidlais ar-lein ymhlith y cyhoedd.
Derbyniodd Michael Smith wobr am Berfformiad Teledu Gorau’r Flwyddyn wrth guro Clayton ym mhedwaredd rownd Pencampwriaeth y Byd.
Enillodd Gerwyn Price o Markham yn sir Caerffili Chwaraewr y Flwyddyn y Daith Broffesiynol ar ôl ennill cyfanswm o £98,000 yn ystod y tymor.
Yr Albanwr enillodd y Newydd-ddyfodiad Gorau, ar ôl cyrraedd 16 olaf Pencampwriaeth Agored y Deyrnas Unedig a Phencampwriaeth y Byd.
Rusty-Jake Rodriguez gipiodd y wobr ar gyfer Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn ar ôl ennill pum twrnament datblygu Ewropeaidd, a chyrraedd Pencampwriaeth y Byd a’r Gamp Lawn.
Cafodd Clayton a Price, ill dau, gydnabyddiaeth am orffen gêm mewn naw dart yn ystod y flwyddyn hefyd, gan ymuno â chriw dethol o chwaraewyr sydd wedi cyflawni’r gamp.