Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi buddsoddiad o £4.5m ychwanegol ar gyfer cyfleusterau chwaraeon newydd ledled Cymru.

Bydd y cyllid cyfalaf ychwanegol a gafodd ei gyhoeddi gan Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog Celfyddydau a Chwaraeon Llywodraeth Cymru, yn cefnogi prosiectau a fydd yn cael eu darparu drwy Chwaraeon Cymru.

Gan wella cyfleusterau, nod y buddsoddiad yw sicrhau bod mwy o bobol yn cael cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o chwaraeon.

Mae’r buddsoddiad ychwanegol hwn yn golygu bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £13.2m mewn chwaraeon eleni wrth adfer wedi’r pandemig.

Dywed Dawn Bowden fod buddsoddi mewn cyfleusterau chwaraeon yn “ymrwymiad allweddol” yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru, ac yn bwysig i iechyd a lles y genedl.

“Mae’r pecyn hwn yn adlewyrchu’r gwerth rydyn ni’n parhau i’w roi ar ein cyfleusterau chwaraeon,” meddai.

“Maen nhw’n amgylcheddau sy’n creu cyfleoedd cynhwysol i bobol fwynhau’r manteision corfforol a meddyliol sy’n gysylltiedig â chwaraeon, ac i ryddhau eu potensial ym maes chwaraeon.”

Gwasgaru’r cyfleusterau ledled Cymru

Dywed Brian Davies, Prif Weithredwr Dros Dro Chwaraeon Cymru, fod y broses mynegi diddordeb y llynedd wedi dangos bod angen yr arian ychwanegol hwn.

“Caniataodd y broses honno hefyd inni nodi’r prosiectau â blaenoriaeth, ac mae’r holl fuddsoddiad wedi cael ei glustnodi erbyn hyn,” meddai.

“Rydyn ni wedi gweithio gyda’r sector i sicrhau bod y buddsoddiad yn cael ei wasgaru’n ddaearyddol a bod amrywiaeth o chwaraeon a gweithgareddau yn cael eu cefnogi.

“Buom yn ystyried yn ofalus hefyd er mwyn ceisio sicrhau y bydd y buddsoddiad o fudd i’r cymunedau hynny sydd ei angen fwyaf.

“Os nad oes cyfleusterau ar gael, does dim gobaith gyda ni o daro’n nod o roi cyfle i bob un yng Nghymru fod yn gorfforol egnïol, a dyna pam rydyn ni’n falch iawn o fod wedi cael y cyllid ychwanegol hwn oddi wrth Lywodraeth Cymru,” meddai wedyn.

‘Deall grym chwaraeon’

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi croesawu’r arian hefyd, gan ddweud y bydd y cyfleusterau newydd yn “gwella cynifer o fywydau yn feddyliol ac yn gorfforol”.

“Mae’n amlwg bod Llywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru yn deall y grym sydd gan chwaraeon i greu cymdeithas well, ac mae’r cyhoeddiad hwn yn cynnig gobaith ac yn rhoi goleuni ar gyfer dyfodol disglair,” meddai’r prif weithredwr Noel Mooney.

Mae llawer o brosiectau wedi elwa ar gyllid yn barod, gan gynnwys Tŷ Chwaraeon, Caerdydd, sydd wedi gosod lloriau newydd yn eu canolfan bêl-droed.

‘Canolbwynt i’n cymuned’

Mae £2m wedi’i glustnodi ar gyfer Felodrôm Gogledd Cymru yn Sir Ddinbych hefyd, ac yng Nghil-y-coed, mae Clwb Gymnasteg Gwy Galaxy wedi cael arian i helpu gyda’r gwaith o greu caffi newydd yn y clwb a fydd yn cynnal sesiynau Fit and Fed i blant lleol, yn cynnig caffi dementia rheolaidd, a rhoi cyfleoedd i bobol ag awtistiaeth ac anawsterau dysgu gael lleoliadau gwaith.

Dywed Carly Hawke, Prif Swyddog Gweithredol Gymnasteg Gwy a Galaxy Cheerleading, eu bod nhw’n methu aros i weld y prosiect yn dod yn fyw.

“Tra’n gwella profiad rhieni a chefnogwyr y clwb, bydd y caffi hefyd yn ganolbwynt i’n cymuned leol sy’n bwysig iawn i ni,” meddai.

“Mae’r rhodd gan Chwaraeon Cymru wedi bod yn hwb i’n gweithgarwch codi arian gan ychwanegu gwerth aruthrol a chynyddu hyder y cyhoedd yn y prosiect, gan eu hannog i gyfrannu hefyd.

“Rydym yn ddiolchgar am eu cefnogaeth – a byddem yn annog unrhyw glybiau lleol sydd angen cymorth codi arian i gysylltu.”