Mae Clwb Rygbi Caerwysg wedi penderfynu mabwysiadu brand Celtaidd ar draul brand dadleuol yr Indiaid Cochion.

Fe fu clwb yr Exeter Chiefs dan y lach am gysylltu eu hunain â’r brodorion trwy fasgot a bathodyn y clwb.

Ond bydd ganddyn nhw logo newydd o fis Gorffennaf, er y byddan nhw’n cadw’r ffugenw.

Roedd llwyth y Dumnonii o’r Oes Haearn yn cwmpasu Dyfnaint, Cernyw a rhannau o Wlad yr Haf cyn i’r Rhufeiniaid gyrraedd o 43OC.

Fe fu’r cefnogwyr yn ymgyrchu tros newid, gan gredu bod delwedd bresennol y clwb yn amharchu brodorion yng Ngogledd America.

Mae’r cefnogwyr wedi cael ceisiadau parhaus i beidio â gwisgo penwisg yr Indiaid Cochion i gemau, tra bod Cyngres Genedlaethol Indiaid America wedi ysgrifennu at y clwb yn mynegi pryderon am “hyrwyddo ystrydebau”.

Mewn datganiad, mae’r clwb yn dweud eu bod nhw “wedi bod yn barod i wrando” a’u bod nhw bellach yn “barod i gyflwyno newid”.

Cefndir

Mae Caerwysg wedi’u cysylltu â’r ffugenw ‘Chiefs’ yn swyddogol ers 1999, ond roedd yr enw’n cael ei ddefnyddio ymhell cyn hynny.

Rhoddodd y clwb y gorau i’w masgot ‘Big Chief’ y tymor diwethaf yn dilyn gwrthwynebiad.

Bydd y brand newydd yn talu teyrnged i ‘Deyrnas Geltaidd Dumnonia’, a gafodd ei sefydlu oddeutu’r flwyddyn 410, gan bara bron i bum canrif.

Yn ôl y clwb, mae’r brand newydd yn “cydnabod ein traddodiadau, ond yn bwysicach, yn uniaethu â’n cefnogwyr a’r rhanbarth ei hun”.