Mae Wayne Pivac yn disgwyl cryn gystadleuaeth ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni, wrth i Gymru geisio amddiffyn eu teitl.

Ond Cymru yw’r pedwerydd ffefrynnau i ennill y bencampwriaeth eleni, y tu ôl i Ffrainc, Lloegr ac Iwerddon.

Y rheswm pennaf, mae’n siŵr, yw’r holl absenoldebau – gyda’r capten Alun Wyn Jones allan am ran helaeth o’r gystadleuaeth os nad y gystadleuaeth i gyd, tra bod Leigh Halfpenny, Ken Owens, Josh Navidi a Justin Tipuric i gyd allan.

Ychydig o obaith sydd gan George North, Dan Lydiate a Taulupe Faletau o chwarae eu rhan yn y twrnament hefyd, a dim ond yn y gemau olaf fyddan nhw’n chwarae os ydyn nhw’n llwyddo i fod yn holliach.

Mae hynny’n golygu bod y prif hyfforddwr ryw 700 o gapiau’n brin o’r garfan fwyaf profiadol, gyda’i dîm yn herio Iwerddon ar y penwythnos cyntaf ar Chwefror 5.

Yn yr hydref, llwyddodd Cymru i guro Awstralia, ond fe gollon nhw hefyd yn erbyn yr Ariannin, Seland Newydd a De Affrica, ond roedd Iwerddon a Ffrainc wedi curo’r Crysau Duon, tra bod Lloegr wedi curo’r Springbok.

Ac mae Wayne Pivac yn derbyn maint yr her sy’n wynebu ei dîm.

“Mae hi’n siŵr o fod yn her fawr eto gyda’r camau ymlaen mae Ffrainc, Lloegr ac Iwerddon wedi’u cymryd,” meddai.

“Rydyn ni i gyd yn ceisio datblygu a thyfu ein carfan, a dydyn ni ddim yn wahanol.

“Rydyn ni wedi’n llethu rywfaint gan ein hargaeledd, ond yn sicr mae cyfleoedd yn dod i eraill ac mae’n creu cyffro, felly gobeithio y bydd hynny’n mynd yn bell wrth ein helpu ni i gael y perfformiadau rydyn ni’n eu ceisio.

“Gyda’r chwaraewyr sydd wedi’u hanafu, mae oddeutu wyth neu naw o chwaraewyr yn y fan honno gyda 680 o gapiau prawf.

“Byddwn i’n herio unrhyw dîm i golli cymaint â hynny o brofiad a dod allan ohoni’n or-hyderus.

“Rydyn ni’n hyderus yn y garfan.

“Mae hi’n mynd i fod yn her fawr, ond yn sicr i ni, mae’n fater o ddechrau’r gystadleuaeth yn dda ac adeiladu, fel y gwnaethon ni y llynedd.”

Taith fawr i Ddulyn

Mae Cymru wedi colli pump o saith gêm diwethaf yn Stadiwm Aviva yn Nulyn, ac felly gallai’r gêm agoriadol siapio ymgyrch Cymru.

Byddan nhw’n herio’r Alban yng Nghaerdydd yr wythnos ganlynol.

“Yr un hen ystrydeb yw hi, ond mae gêm Iwerddon yn dod yn hollbwysig i ni, a dechrau’n dda,” meddai Wayne Pivac.

“Rydyn ni’n gwybod am yr her sy’n aros amdanom ni yno, oherwydd bydd hanes yn dweud wrthoch chi nad yw’n lle hawdd i fynd.

“Maen nhw’n rheoli’r bêl am gyfnodau hir, ac fe welsoch chi hynny yn erbyn Seland Newydd yn yr hydref.

“Fe wnaethon nhw rwystro amddiffyn Seland Newydd am gyfnodau hir, ac mae eu gallu i droi’r bêl drosodd neu arafu’r bêl yn golygu bod rhaid i chi daro’r hoelen ar ei phen.

“Os nad ydych chi’n herio’r Iwerddon yn gorfforol, yna mae’n mynd i fod yn ddiwrnod hir wrth eich gwaith.

“Bydd yn rhaid i ni baratoi yn dda iawn i berfformio yn y ffordd y bydden ni’n ei hoffi.

“Maen nhw’n dîm da sy’n gallu eich tagu chi gyda’r bêl.

“Maen nhw’n dal y bêl am gyfnodau hir, felly mae’n rhaid i’ch amddiffyn fod arni a rhaid i chi gymryd eich cyfleoedd i sgorio pan fyddan nhw’n dod.”