Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi y bydd Cymru C yn herio Lloegr C yng Nghaernarfon ym mis Mawrth.

Roedd disgwyl iddyn nhw gyfarfod ar yr Oval ym mis Mawrth 2020, ond cafodd y gêm ei gohirio oherwydd dechrau’r pandemig Covid-19.

Ddwy flynedd yn ddiweddarach, mae cymdeithasau pêl-droed Cymru a Lloegr am roi cynnig arall arni, wedi i gyfyngiadau gael eu codi yng Nghymru.

Fe wnaeth timau lled-broffesiynol y ddwy wlad chwarae yn erbyn ei gilydd am y tro cyntaf yn 2018, gyda’r Saeson yn ennill o 3-2 ar Barc Jenner yn y Barri.

Yn dilyn llwyddiant yr ornest honno, cafodd ail gêm ei chynnal yn 2019 yn Stadiwm Peninsula, Salford, lle cafwyd canlyniad cyfartal.

‘Achlysur gwych’

Mark Jones, cyn-reolwr Port Talbot a Chaerfyrddin, fydd wrth lyw Cymru C unwaith eto, ar ôl eu rheoli yn y ddwy gêm gyntaf yn erbyn Lloegr C.

Bydd y Cymro’n gobeithio am drydydd cynnig mwy llwyddiannus yn eu herbyn nhw y tro hwn.

“Ar ôl colli allan yr achlysur hwn yn 2020 oherwydd y pandemig, rydyn ni wedi cyffroi mwy nag erioed i groesawu Lloegr C i’r Oval,” meddai.

“Fe fydd yn achlysur gwych yn ystod wythnos bwysig iawn i bêl-droed Cymru.”

Bydd prif dîm cenedlaethol y dynion yn herio Awstria yng ngemau ail gyfle Cwpan y Byd yr wythnos honno, a phe baen nhw’n ennill, bydden nhw’n herio’r Alban neu’r Wcráin am le yn y twrnament yn Qatar eleni.

‘Digon o adloniant’

Ychwanegodd Mark Fairclough, rheolwr Lloegr C, ei fod yn “edrych ymlaen” at gael arwain ei fechgyn i’r frwydr ar yr Oval.

“Rydyn ni’n falch iawn o gadarnhau ein bod wedi derbyn y gwahoddiad i chwarae’r gêm hon yn erbyn Cymru C,” meddai.

“Mae’r ddau gyfarfod diwethaf rhwng y ddau dîm wedi cynnig digon o adloniant a llwyfan i’r chwaraewyr ddatblygu eu gyrfaoedd, felly rydyn ni’n edrych ymlaen at yr hyn sy’n argoeli i fod yn gêm gyffrous i bawb.”

Mae tocynnau i’r gêm ar Fawrth 30 ar gael ar wefan Cymdeithas Bêl-droed Cymru erbyn hyn, gyda’r gic gyntaf am 19:00.

Bydd holl chwaraewyr y Cymru Premier, sydd newydd ddychwelyd y penwythnos diwethaf, yn gweithio’n galed dros yr wythnosau nesaf i blesio Mark Jones a chael lle yn y garfan.