Mae adroddiadau y gallai Aaron Ramsey gael ei alltudio’n llwyr o garfan Juventus pe bai’n aros yn yr Eidal y tymor hwn.

Mae’r Cymro wedi cael ei gysylltu â throsglwyddiad yn ôl i Uwch Gynghrair Lloegr gyda Crystal Palace, Newcastle neu Burnley.

Fodd bynnag, dydy cytundeb y gŵr 31 oed ddim yn dod i ben tan haf 2023, ac mae’n debyg ei fod yn disgwyl nes y bydd yn derbyn cynnig gan glwb sy’n ei fodloni.

Ond mae’r wefan chwaraeon Eidalaidd, Il Bianconero, yn dweud y gallai Max Allegri, rheolwr Juventus, gadw Ramsey allan o’r garfan am weddill y tymor gan nad yw’n rhan o’i gynlluniau.

Mae’n ychwanegu y byddan nhw hefyd yn tynnu’r Cymro oddi ar eu rhestr o chwaraewyr sy’n gymwys i chwarae yng Nghynghrair y Pencampwyr.

Dadansoddiad: Huw Bebb

Gallai hyn oll fod ag oblygiadau difrodol i Gymru, sy’n herio Awstria yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar Fawrth 24, wrth iddyn nhw geisio cyrraedd Cwpan y Byd.

Pe bai Cymru yn ennill y gêm honno, byddai ffeinal yn erbyn yr Alban neu’r Wcráin yn disgwyl dynion Rob Page.

Bydd Rob Page yn sicr yn gobeithio fod Ramsey yn ffit ac yn chwarae pêl-droed yn y misoedd rhwng nawr a’r gemau ail gyfle.

Dychwelodd Ramsey o anaf i sgorio dwy gôl yn erbyn Hwngari pan sicrhaodd Cymru eu lle yn Ewro 2020.

Ymunodd â Juventus ar drosglwyddiad am ddim ym mis Gorffennaf 2019 ar ôl treulio 11 mlynedd yn Arsenal.

Ers hynny, mae wedi chwarae 69 o weithiau, gan sgorio chwe gôl.

Dim ond unwaith mae e wedi dechrau i Juventus yn Serie A y tymor hwn, gan ddod oddi ar y fainc ddwywaith.

Aaron Ramsey wedi gwrthod cynnig i ymuno â Burnley

Mae Newcastle hefyd yn awyddus i arwyddo’r Cymro sydd “mewn sefyllfa anodd yn Juventus”

Everton a Newcastle ar ôl Aaron Ramsey?

Dim ond naw ymddagosiad y mae’r Cymro wedi’u gwneud i Juventus y tymor hwn.