Mae’r Scarlets wedi denu “chwaraewr o’r radd flaenaf” ar gyfer y tymor nesaf, yn ôl y Prif Hyfforddwr Dwayne Peel.

Daw hyn ar ôl i flaenwr Seland Newydd, Vaea Fifita, ymuno â’r rhanbarth o Wasps.

Mae’r clo, sydd hefyd yn gallu chwarae yn y rheng ôl, wedi ennill tlws Super Rugby gyda’r Hurricanes, yn ogystal ag 11 cap dros y Crysau Duon.

Symudodd Fifita, 29, i Wasps o Seland Newydd ar gyfer tymor 2021-22.

“Rydym wedi denu chwaraewr o’r radd flaenaf yn Vaea ac mae hwn yn ddatganiad go iawn o’n bwriad a’n huchelgais fel clwb,” meddai Dwayne Peel.

“Mae Vaea yn athletwr gwych, yn chwaraewr X-factor gyda’r set sgiliau cyfan sy’n cyd-fynd â sut rydyn ni’n edrych i chwarae yn y Scarlets.

“Mae hefyd yn dod â llawer o brofiad ar y lefel ryngwladol a Super Rugby, a bydd y profiad hwnnw’n amhrisiadwy i’r blaenwyr ifainc sy’n dod drwodd yn y clwb.

“Vaea yw’r math o chwaraewr sy’n cael cefnogwyr allan o’u seddi, ac mae’n destun cyffro ei fod yn mynd i wisgo crys y Scarlets y tymor nesaf.”