Mae James Rowberry, rheolwr tîm pêl-droed Casnewydd, wedi canmol gwytnwch ei dîm ar ôl iddyn nhw gipio buddugoliaeth hwyr o 1-0 yn Leyton Orient neithiwr (nos Fawrth, Ionawr 25).

Mae’r canlyniad yn gweld yr Alltudion yn codi i’r trydydd safle yn yr Ail Adran, ac mae’r diolch i Cameron Norman am rwydo ar ôl 84 munud.

Cafodd Norman ei hun mewn gofod wrth y postyn pellaf wrth dderbyn y bêl gan Josh Pask o gic gornel.

Mae Orient heb fuddugoliaeth mewn pedair gêm, tra bod Casnewydd yn codi i’r safleoedd dyrchafiad awtomatig am y tro cynta’r tymor hwn.

“Dw i’n falch iawn,” meddai’r rheolwr.

“Rydych chi’n dod i Leyton Orient ac oherwydd y ffordd maen nhw’n ceisio chwarae’r gêm, mae’n ceisio atal yr hyn rydyn ni’n ei wneud, felly mae’n debyg nad oedden ni wedi chwarae fel rydyn ni’n arfer gwneud.

“Ond fe ddangoson ni gryn wytnwch yn yr hyn wnaethon ni, ac mae’n llechen lân arall.

“Dw i wrth fy modd.

“Mae gyda ni 44 o bwyntiau ar gyfer y tymor nawr, a’r hyn sy’n rhaid i ni ei wneud yw parhau i wneud yr hyn rydyn ni’n ei wneud a pharhau i symud yn ein blaenau.”